| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/26/2008 - Miloedd o ymwelwyr yn heidio i ddigwyddiad Hwyl yn yr Haul eleni

Fe ddenodd y digwyddiad am ddim Hwyl yn yr Haul dyrfa a oedd yn record o oddeutu 20,000 o bobl yn mwynhau’r digwyddiad deuddydd a gynhaliwyd ar Bromenâd Y Rhyl.
Gwelwyd miloedd yn heidio i’r digwyddiad a gynhaliwyd ar ddydd Sul a dydd Llun Gŵyl y Banc yn Arena Ddigwyddiadau’r Rhyl i weld sêr fel Same Difference o rownd derfynnol ‘X-factor’,  Hoop la la o ‘Britain’s Got Talent’ a James Stone sy’n un o hogiau’r Rhyl.  
Roedd ymrwymiadau ffilmio munud olaf na ellid eu hosgoi gan rai o sêr Coronoation Street yn golygu y bu’n rhaid newid yr amserlen y munud diwethaf.  Ond, cafodd y gynulleidfa eu diddanu gan Michael Starke o Coronation Street, Brookside a The Royal ynghyd â Gerald McCarthy (Kris Fisher)  o Hollyoaks  
Meddai Rheolwr Gŵyl a Digwyddiadau Siân Davies : “Bu’n llwyddiant ysgubol gyda’r tywydd braf yn helpu i gael tyrfa fwy nag erioed.  Cafwyd llawer o uchafbwyntiau dros y penwythnos yn cynnwys ymddangosiad gŵr gwadd Tom Lister (Carl King o Emmerdale) a roddodd glo ar y sioe gyda’i ddatganiad o “You Raise Me Up” Josh Groban.
Meddai’r Cynghorydd David Thomas, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Adfywio: “Unwaith eto mae digwyddiad Hwyl yn yr Haul wedi denu pobl yn eu miloedd ac mae’r digwyddiad hwn yn awr wedi ei sefydlu yng nghalendr yr haf i lawer o ymwelwyr a thrigolion lleol sy’n awyddus i weld rhai o’u hoff sêr o fyd cerddoriaeth a theledu’n perfformio.
“Mae’r trefnwyr wedi gwneud ymdrech fawr iawn i lwyfannu sioe mor ardderchog ac eto chawsom ni mo’n siomi.”

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0