| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/27/2008 - Sir Ddinbych yn gweithredu’n llym yn erbyn gwastraff

Mae tîm Gorfodi Gwastraff Sir Ddinbych wedi erlyn preswylydd o Brestatyn am ddwy drosedd o ddympio sbwriel cartref mewn lle cyhoeddus.
Plediodd Martin Gibson o Nursery Close, Prestatyn yn euog i ddau gyhuddiad o ddympio sbwriel cartref mewn bagiau wedi eu selio wrth ymyl bin sbwriel cyhoeddus a chafodd ddirwy o £365 i gyd.
Meddai’r Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol y Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae Sir Ddinbych yn ystyried achosion o drosedd amgylcheddol yn ddifrifol.  Mae dympio sbwriel yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd lleol.  Nid yn unig mae’n gwneud i’n strydoedd edrych yn flêr ond mae hefyd yn effeithio ar ansawdd bywyd y preswylwyr lleol.
“Mae mwyafrif preswylwyr Sir Ddinbych yn gwaredu eu gwastraff cartref drwy’r cynllun x2 heb unrhyw broblem ac mae hyn wedi cyfrannu tuag at gynnydd anferth mewn ailgylchu yn y sir.
“Rydym wedi gweithredu ac fe barhawn i weithredu yn erbyn lleiafrif o unigolion sy’n parhau i anwybyddu rhybuddion parhaus gan y Cyngor am ddympio sbwriel yn gyhoeddus.
“Mae gan bawb gyfrifoldeb i daclo trosedd amgylcheddol ac mae’n rhaid i ni wneud safiad cadarn, i ddangos fod trosedd amgylcheddol yn gwbl annerbyniol ac na chaiff ei oddef yn Sir Ddinbych.”

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0