| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/27/2008 - Nôl i'r ysgol gyda bocs bwyd diwastraff

Wrth i blant ledled Cymru baratoi i fynd yn ôl i’r ysgol, mae Cyngor Sir Ddinbych a chynllun ‘Craff am Wastraff’ yn cydweithio i annog rhieni i roi bocs bwyd diwastraff iddyn nhw er mwyn cynorthwyo i leihau’r gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi Cymru bob blwyddyn.

Yn aml mae cinio pecyn ysgol yn cynnwys pecynnau creision a deunydd lapio byrbrydau eraill, cartonau diodydd gan greu llawer o wastraff sy’n aml yn cael ei anfon yn syth i safleoedd tirlenwi.  Fodd bynnag, trwy wneud ambell newid syml gallwn ni gynorthwyo i leihau’r gwastraff hwn.

Fel yr eglura’r Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd:  “Mae dileu gwastraff cyn ei greu yn un ffordd o wneud ein rhan i leihau’r gwastraff rydyn ni’n ei anfon i safleoedd tirlenwi Cymru.  Ac mae bocs bwyd yr ysgol neu’r swyddfa yn fan cychwyn gwych. Yn ogystal â helpu’r amgylchedd trwy leihau gwastraff gormodol, gallwn ni arbed arian hefyd, gan fod bwyd wedi’i bacio’n barod yn ddrutach yn aml.

“Mae’n hawdd lleihau gwastraff bocs bwyd trwy ddewis rhywbeth y gellir ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu.  Hefyd, gallwn ddefnyddio’n pŵer prynu i ddewis cynhyrchion gyda llai o ddeunydd pacio.  Gall prynu ffrwythau a llysiau rhydd ac ailddefnyddio bocs bwyd helpu i leihau’r gwastraff rydyn ni’n ei anfon i safleoedd tirlenwi yn ogystal ag arbed arian ar y bil siopa wythnosol.”

Gair i gall gan Sir Ddinbych ar greu cinio diwastraff:
· Defnyddiwch fflasg neu botel y gellir ei hailddefnyddio ar gyfer diodydd ysgol yn hytrach na charton neu botel blastig
· Peidiwch â defnyddio ffoil, haenen lynu neu fagiau storio i lapio brechdanau ond yn hytrach defnyddiwch focs bwyd y gellir ei ailddefnyddio
· Rhowch ffrwythau a llysiau heb eu pacio yn y bocs yn lle bisgedi wedi’u pacio’n unigol a chreision.
· Os byddwch chi’n rhoi ffrwythau mewn bocsys bwyd cofiwch y gellir compostio croen neu galon ffrwythau gartref.
· Defnyddiwch lwyau metel yn lle rhai plastig tafladwy.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.craffamwastraff.org.uk

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0