| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/28/2008 - Cynllun Ail-wynebu A5

Mae pleser gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.cyhoeddi fod contract wedi ei osod i Huw Howatson Surfacing Ltd ar gyfer ailwynebu 1.5cm o’r A5 rhwng Llangollen a Corwen. 

Mae’r gwaith yn cael ei gario allan i ailosod wyneb presennol y gefnffordd gyda arwyneb lleihau sŵn traffig. 

Bydd cyfyngiadau cyflymder o 10 m.y.a. a 40 m.y.a. mewn grym yn ystod y gwaith. Bydd oedi yn debygol a chynghorir gyrwyr i ganiatáu amser ychwanegol i’w siwrneiau.

Bydd y gwaith yn cychwyn ar 1af Medi ac yn cymeryd 4 wythnos i’w gwblhau yn ddibynnol ar y tywydd.

Mae Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymddiheuro am unrhyw anhwylustod fydd yn cael ei achosi i deithwyr tra bydd y gwaith hanfodol yma cael ei gario allan i wella’r gefnffordd.

Ceir gwybodaeth pellach am yr A5 ar safle we Canolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru, Conwy, www.traffic-wales.com

Gwybodaeth teithio ddiweddaraf ar gael 24 awr ar 0845 6026020.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0