| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/28/2008 - Anfonwch destun os medrwch chi :)

Yn fuan bydd pob cartref yn Sir Ddinbych yn derbyn ffurflen Gofrestru Etholiadol.


Fe ddefnyddir y wybodaeth a geir gan breswylwyr i grynhoi’r Gofrestr Etholwyr ar Ragfyr 1, 2008.  Mae’r tîm Gwasanaethau Etholaethol yn gofyn i bawb ymateb cyn gynted ag sydd bosib i sicrhau y caiff eu henw ei gynnwys.


Eto gall preswylwyr gofrestru drwy radffôn a’r rhyngrwyd.  Hefyd, eleni, gall preswylwyr ateb drwy neges testun ffôn symudol (SMS).  Dim ond y bobl hynny nad oes arnynt eisiau newid y manylion a ddangosir ar y ffurflen a all ddefnyddio’r gwasanaethau hyn.

Roedd cofrestru ar y ffôn ac ar y rhyngrwyd yn boblogaidd iawn y llynedd gyda thros
13,000 o gartrefi (tua 30% o gartrefi) yn cofrestru fel hyn.


Meddai Ian Miller, Swyddog Etholiadol Sir Ddinbych “Mae neges destun yn ffordd sy’n dod yn gynyddol boblogaidd fel ffordd sydyn a hawdd o gyfathrebu ac rwy’n hynod falch ein bod yn gallu cynnig y gwasanaeth hwn i’n hetholwyr.  Yn awr gall rhywbeth cyn bwysiced â chadarnhau fod eich manylion pleidleisio’n gywir fod cyn hawsed ag anfon testun at eich ffrindiau a’ch teulu.”.


I ddefnyddio’r gwasanaeth testun, mae gofyn i breswylwyr anfon y cod a ddangosir ar eu ffurflen gofrestru i 80212. Unwaith y bydd y cofrestriad wedi ei dderbyn, fe anfonir testun cadarnhau i’r set law. (Trethi rhwydwaith safonol yn gymwys).  Ni chodir tâl am gofrestru drwy radffôn (0800) ac mae cyrchiad rhyngrwyd am ddim ar gael hefyd mewn unrhyw lyfrgell drwy’r sir.


Mae pob un o’r tri gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, tan fis Tachwedd 30.


Ond os yw eich amgylchiadau wedi newid o gwbl yn ystod y 12 mis diwethaf yna bydd gofyn i chi ddiwygio a dychwelyd y ffurflen yn y post i Neuadd y Sir yn yr amlen ragdal a ddarperir.  Yn anffodus, nid yw deddfwriaeth gyfredol yn caniatáu i breswylwyr gofrestru newidiadau mewn gwybodaeth gofrestru ar y ffôn, y rhyngrwyd na thestun..

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0