| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/28/2008 - Y Cyngor yn paratoi ar gyfer cyflwyniad pàs bws electronig

Fe fydd pasys bws traddodiadol yn rhan o’r gorffennol yn Sir Ddinbych wrth i’r Cyngor baratoi i fynd yn fyw gyda’r Cardiau Call a’u microsglodyn electronig.

Bydd gan y pasys newydd rif cyfresol unigryw a bydd cyfarpar arbennig sy’n cael ei osod ar fysys y sir yn gallu darllen y microsglodyn a dilysu’r pàs.

Mae tîm Cludiant Teithwyr Sir Ddinbych yn awr am glywed gan ddalwyr pasys presennol y mae eu hamgylchiadau wedi newid efallai ers iddynt wneud cais am eu pàs y tro cyntaf ac yr hoffent i’w gwybodaeth gael ei ddiweddaru.

Bydd y Cardiau Call yn rhoi’r un hawl am ddim i’r 21,000 o ddalwyr pasys sydd wedi eu cofrestru yn Sir Ddinbych a bydd angen sganio’r pasys newydd hyn gan ddarllenwyr cardiau newydd ar y bws.  Fe gynhwysir cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r Cardiau Call mewn pecyn cyflwyno a roddir i bob daliwr tocyn mantais bws maes o law.

Daeth manteision teithio gorfodol i rym yng Nghymru yn Ebrill 2002 ac maent yn cynnig teithio am ddim i bobl anabl a phobl dros 60 oed ar draws Cymru.  Mae Sir Ddinbych wedi defnyddio ei hawl orddewisol i ymestyn y manteision i bobl nad ydynt yn berchnogion tŷ, fel preswylwyr parciau carafannau lleol, a all orfod ailymgeisio mewn blynyddoedd i ddod i sicrhau eu bod yn dal yn gymwys.

Fe anfonir y Cardiau Call newydd allan yn awtomatig heb fod angen ailymgeisio.  Ond mae’n rhaid i rywun sydd am newid eu manylion gysylltu â thîm Cludiant Teithwyr Sir Ddinbych ar 01824 706968.

Dylai’r rhai nad ydynt yn breswylwyr Sir Ddinbych gysylltu â’u cynghorau lleol a fydd yn gweinyddu’r cynllun yn eu siroedd.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0