| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
08/28/2008 - Nofelydd ifanc blaenllaw i gyfarfod ag edmygwyr Gogledd Cymru

Bydd y nofelydd a’r bardd llwyddiannus, Owen Sheers, yn ymweld â gogledd Cymru'r wythnos nesaf i gyfarfod â darllenwyr.
Fe fydd Owen yn Llyfrgell Llangollen ar ddydd Sadwrn, Medi 6 am 2.00pm i siarad am ei nofel gyntaf, Resistance, sydd wedi ei lleoli yng Nghymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd.  Mae mynediad i’r digwyddiad am ddim ond fe argymhellir bwcio drwy ffonio Llyfrgell Llangollen ar 01978 869600.
Mae nofel gyntaf Owen yn datblygu gyda chyflymdra a dwyster llyfr cyffrous.  Yn emyn i dirwedd wych tiriogaeth y gororau a phortread gafaelgar o gymuned dan warchae, mae Resistance yn nofel gyntaf osgeiddig a phwerus.
Mae’r ymweliad yn rhan o hyrwyddiad Un Genedl Un Llyfr mewn llyfrgelloedd drwy Gymru sy’n annog darllenwyr i ddarllen a thrafod Resistance.  Cefnogir y prosiect gan gyhoeddwyr Faber ac Academi.
Cafodd Owen Sheers ei eni yn Fiji yn 1974 a’i fagu yn Y Fenni.  Yn enillydd Gwobr Eric Gregory a 1999 Vogue Young Writer’s Award, roedd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth The Blue Book (Seren, 2000) ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llyfr Cymreig y Flwyddyn a’r Flaenwobr am y Casgliad Cyntaf Gorau 2001.
Roedd ei waith rhyddiaith cyntaf The Dust Diaries (Faber 2004), hanes ffeithiol wedi ei leoli yn Zimbabwe, ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ondaatje y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol ac fe enillodd Lyfr Cymreig y Flwyddyn  2005.
Yn 2004 fe’i dewiswyd yn un o’r 20 o Next Generation Poets gan y ‘Poetry Book Society’. Enillodd ail gasgliad Owen o farddoniaeth, Skirrid Hill (Seren, 2005) Wobr Somerset Maugham 2006 ac mae’n destun gosodedig CBAC ac AQA lefel A.  Datblygwyd ei ddrama un dyn Unicorns, almost yn seiliedig ar fywyd a barddoniaeth bardd yr Ail Ryfel Byd Keith Douglas gan Old Vic, New Voices.
Mae nofel gyntaf Owen, Resistance, wedi ei chyfieithu i wyth o ieithoedd.  Mae ei waith diweddar gyda’r cyfansoddwr Rachel Portman, The Water Diviner’s Tale, yn oratorio ar gyfer plant a chafodd ei pherfformiad cyntaf yn y Royal Albert Hall ar gyfer y BBC Proms 2007. Mae ei draethawd Bomb Gone am brofion thermoniwclear yn Christmas Island, Prydain yn ymddangos yn Granta 101. Ar hyn o bryd mae Owen yn Gymrawd Dorothy a Lewis B. Cullman yn Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd, ac mae wedi cylfwyno Open Book ar Radio 4.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0