Mae gohiriadau posibl mewn comisiynu gwasanaethau hanfodol wedi golygu fod llywodraethwyr a thîm arweinyddiaeth Ysgol Clawdd Offa, Prestatyn, mewn cytundeb â’r tîm adeiladu, wedi gohirio agor yr ysgol ar gyfer disgyblion tan ddydd Llun, Medi 8.
Meddai’r Cynghorydd Julian Thompson Hill, cadeirydd dros dro y corff llywodraethwyr, “Mae’n edifar ac yn siom gennym wneud y penderfyniad yma, ond mae’n bwysig ein bod yn cynnig yr amgylchedd gorau i ddisgyblion wrth iddynt gychwyn ar eu haddysg yn Ysgol Clawdd Offa.”
Meddai’r Prifathro, Martin Edwards, “Mae gennym amgylchedd dysgu ardderchog yma yn Ysgol Clawdd Offa gyda chyfleusterau modern ac rydym am sicrhau fod popeth yn berffaith ar gyfer disgyblion ar eu diwrnod cyntaf yn yr ysgol.”
Gofynnir i rieni fonitro’r wefan <http://ysgolclawddoffa.net/default.aspx> am fwletinau ar gynnydd dyddiol.
Gallwn sicrhau rhieni fod llywodraethwyr a thîm arweinyddiaeth yr ysgol yn cyfarfod yn ddyddiol gyda’r tîm adeiladu i fonitro cynnydd.

Rhoi adborth ar y tudalen hon