| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
09/02/2008 - Gwybodaeth cefn gwlad yn awr yn glywedol

Yn fuan bydd ymwelwyr â Moel Famau’n gallu mwynhau taith dywys bersonol i’w helpu i fforio gorffennol hudolus yr ardal drwy’r Prosiect Grug a Bryngaerau.
Gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, gall ymwelwyr gyrchu’r daith sain newydd drwy eu ffôn symudol neu drwy drawslwytho’r fersiwn mp3 am ddim o’r rhyngrwyd.
Esboniodd Erin Robinson, Swyddog Dehongli Grug a Bryngaerau: “Bydd y daith, a lansir yr hydref hwn, yn rhoi cyfle i ymwelwyr gerdded drwy Barc Gwledig Moel Famau i fyny at Dŵr y Jiwbilî gyda nifer o arbenigwyr wrth law.  Mae’r daith yn cynnwys disgrifiadau gan archeolegwyr ac arbenigwyr natur ymysg nifer o rai eraill gan roi cyfle unigryw i ymwelwyr  gael eu tywys o gwmpas yr ardal hudolus yma gan y bobl sy’n byw ynddi, yn gweithio ynddi ac sy’n ei charu.
“Hefyd gallasom siarad â gŵr o’r Wirral a oedd wedi ymweld â’r ardal pan oedd yn Sgowt yn y 50au ac sy’n awr yn byw yn yr ardal.  Mae’n ddiddorol clywed ei atgofion, o ddal y bws, gwersylla ar ffermydd lleol a cherdded i fyny i Dŵr y Jiwbilî efo’i ffrindiau.  Mae’n ardderchog ein bod wedi gallu recordio’r adroddiadau unigryw hyn a’u cofnodi’n awr fel adroddiadau hanes llafar uniongyrchol, a fyddai wedi eu colli fel arall.”
Mae’r daith yn cynnwys gwybodaeth am y tomennydd claddu o’r Oes Efydd, bryngaerau’r Oes Haearn, adroddiadau ar y ffordd y ffurfiwyd y dirwedd a sut y cafodd ei defnyddio a’i rheoli gan ddyn dros filoedd o flynyddoedd a hefyd sut y defnyddir yr ardal heddiw, ar gyfer hamdden, amaethyddiaeth a chadwraeth.
Mae’r daith dreftadaeth ryngweithiol yn ddull newydd o ddehongli ardal y gall pobl ei gyrchu yng nghefn gwlad drwy eu ffôn symudol.  Mae’r daith sain yn galluogi darpariaeth gwybodaeth sy’n benodol i safle arbennig, heb gael effaith weledol ar y lleoliad.
Mae’r rhif ffôn a ddefnyddir ar gyfer y daith yn rif sydd ar dreth leol, a gellir cynnwys y galwadau ym munudau am ddim yr ymwelwyr.  Bydd y daith ar gael hefyd ar fformat MP3 ac yn ysgrifenedig ar wefan Grug a Bryngaerau www.heatherandhillforts.co.uk sydd hefyd yn cynnwys darluniadau adluniad, ffotograffau o’r awyr a fideo o’r dirwedd sy’n cael ei defnyddio.
Disgwylir y bydd y pecyn yn mynd yn fyw yn y misoedd nesaf.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0