| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
09/02/2008 - Y Cyngor yn annog ceisiadau am wobrau cefn gwlad

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog pobl i ystyried ymgeisio am Wobrau’r Gynghrair Cefn Gwlad, sy’n cydnabod ymdrechion busnesau gwledig ac ymdrechion i wella cefn gwlad.

Y categorïau ar gyfer y Gwobrau yw:
• Bwyd Lleol Gorau
•Siop y Pentref/Swyddfa Bost Orau
•Menter Wledig
•Busnes Traddodiadol Gorau’r Daily Telegraph
•Arwr Gwledig

Bydd y Gynghrair Cefn Gwlad hefyd yn enwi gwleidyddion y flwyddyn ac yn gwahodd awgrymiadau yn y categorïau canlynol:
•Gwobr Grassroots am ymgyrchu cymunedol (yn agored i gynghorwyr, cyrff datganoledig a Senedd y DU ac Iwerddon)
•Gwobr Westminster am ddod â chefn gwlad i’r Senedd
•Gwobr y Weledigaeth Wledig, i’r gwleidydd sydd â dyfodol cefn gwlad yn agos at ei galon (yn agored i gynghorwyr, cyrff datganoledig a Senedd y DU ac Iwerddon)

Derbynnir enwebiadau ar-lein ar www.countrysideallianceawards.co.uk.  Y terfyn amser yw Hydref 27.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0