Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog preswylwyr y sir i gymryd rhan yng ngham nesaf arolwg Byw yng Nghymru gan Ipsos MORI ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae arolwg Byw yng Nghymru’n darparu prif ffynhonnell gwybodaeth am dai a theuluoedd y genedl. Mae cyfwelwyr wedi bod yn gweithio yn y rhanbarth ers mis Ionawr ac yn awr fe’i dilynir gan arolwg adeiladau.
Bydd yr arolwg adeiladau’n digwydd bob pedair blynedd ac mae’n cynnwys archwiliad gweledol o’r cartref gan syrfëwr cymwys. Fe arolygir cyfanswm o 2,500 o anheddau ar draws Cymru ac fe ddewisir adeiladau yn Sir Ddinbych ar hap (dim mwy na 500 o adeiladau), i sicrhau ymdriniaeth gynrychioliadol ar gyfer yr ystod o fathau o adeiladau.
Bydd syrfewyr yn gweithio yn Sir Ddinbych rhwng Medi a Thachwedd ac fe fydd ganddynt gerdyn a llun adnabod. Ni chymer yr arolygon fwy nag awr i’w cwblhau.
Mae’r arolwg yn gwbl gyfrinachol ac ni chynhyrchir adroddiad ysgrifenedig ar unrhyw adeilad unigol. Bydd y canlyniadau’n nodi natur ac addasrwydd tai’r genedl yn ogystal â hysbysu amcangyfrifon am effeithlonrwydd ynni, tanwydd, tlodi, a’r ariannu sy’n angenrheidiol i wella cyflwr tai.
Am wybodaeth bellach am Arolwg Adeiladau Byw yng Nghymru, cysylltwch ag Ipsos MORI ar 0207 347 3353 neu ewch i’r wefan: www.wales.gov.uk/livinginwalessurvey

Rhoi adborth ar y tudalen hon