| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
09/02/2008 - Llai o wastraff Sir Ddinbych yn mynd i dirlenwi

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi lleihau’r  swm o wastraff bioddiraddadwy a anfonir i dirlenwi am y drydedd flwyddyn yn olynol, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
Yn 2007/08, fe dirlenwodd Sir Ddinbych 21,524 tunnell o wastraff bioddiraddadwy, sydd ymhell o fewn cyfyngiad gosodedig y Cynulliad Cymreig o 24,312 tunnell.  Ond, mae’r Cynulliad yn lleihau’r cyfyngiad i 19,456 o dunelli yn 2009/10 felly mae yna gryn waith i’w wneud.
Mae gwastraff bioddiraddadwy’n arbennig o broblemus mewn tirlenwi gan ei fod yn creu methan sy’n fflamadwy ac yn nwy tŷ gwydr cryf.
Fe gyflawnwyd y lleihad mewn gwastraff bioddiraddadwy a anfonir i dirlenwi drwy fod preswylwyr yn cynyddu’n sylweddol cyfran y gwastraff gardd a gompostir ac yn cynyddu swm y defnyddiau fel papur, cardfwrdd, pren a thecstilau y maent yn eu hailgylchu.
Meddai’r Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol y Cabinet dros yr Amgylchedd: “Mae’r ffaith syml fod preswylwyr Sir Ddinbych yn creu ychydig iawn o wastraff yn y lle cyntaf yn help mawr hefyd.  Fe anfonodd preswylwyr Sir Ddinbych lai o sbwriel i dirlenwi (279 kg/person/blwyddyn) na phreswylwyr pob un ond un o Gynghorau eraill yng Nghymru'r llynedd.  Mae compostio cartref a chynlluniau clytiau go iawn wedi chwarae eu rhan yn hyn.
“Gyda phreswylwyr yn ailgylchu 33% o’u sbwriel yn barod bydd Sir Ddinbych yn lansio casgliadau cyntaf gwastraff bwyd y flwyddyn nesaf.  Mae’r rhagolygon am leihau gwastraff bioddiraddadwy’n edrych yn addawol iawn.”

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0