Mae mam o’r Rhyl y cafodd ei merch fach sy’n fabi ei hanafu mewn damwain ffordd, wedi mynegi ei diolch personol i’w ‘harwr’ sy’n weithiwr i Gyngor Sir Ddinbych a yrrodd i’w hachub.
Roedd y Swyddog Cefn Gwlad, Jim Kilpatrick a dau o gydweithwyr yn teithio ar hyd y ffordd rhwng Bae Cinmel a Bodelwyddan ar Orffennaf 28 pan welsant gar a oedd wedi mynd i ffos.
Aeth Jim i gynorthwyo Kandeece Ellis a’i merch Delainy-Rose (12 diwrnod oed ar y pryd) a oedd wedi ei hanafu tra’r oedd ei gydweithwyr yn cyfarwyddo’r traffig ar y ffordd brysur nes i’r gwasanaethau brys gyrraedd.
Rhoddodd Jim gysur a chefnogaeth i’r fam ifanc, yn ogystal â defnyddio’i sgiliau cymorth cyntaf i archwilio’r babi am unrhyw arwyddion o anafiadau i’r pen neu’r gwddw ac fe sicrhaodd ei bod yn anadlu.
Gan ei fod yn bryderus am ddiogelwch y babi, penderfynodd fynd â’r plentyn i’r ysbyty ac fe’i cadwyd yno am dri diwrnod dan wyliadwriaeth cyn ei rhyddhau.
Meddai Jim: "Rwy’n hynod o falch fod y babi wedi cael adferiad llawn ac rwy’n falch ein bod wedi gallu cynnig help ar y diwrnod. Roedd yr hyfforddiant cymorth cyntaf yn ddefnyddiol iawn ac fe asesais y sefyllfa cyn penderfynu mynd â’r fam a’r plentyn i’r ysbyty.
“Roedd yn rhaid bod yn bwyllog gan ei bod yn sefyllfa boenus, ynghyd â’r ffaith mai hwn oedd diwrnod poetha’r flwyddyn ac fe ddigwyddodd y ddamwain ar ffordd brysur iawn. Roedd Kandeece yn weledol ofidus ac rwy’n gobeithio ein bod wedi gwneud gwahaniaeth."
Meddai Kandeece: "Roedd yn fendigedig cael cyfarfod â Jim i ddweud diolch o galon am ei ymdrechion a’i bwyll. Allwn i ddim cofio sut yr oedd yn edrych. Y cyfan a gofiaf yw Delainy-Rose yn sgrechian ac yn cael ei chludo i’r ysbyty. Fe achubodd ei bywyd drwy ei feddwl chwim a’i weithrediadau, rwy’n argyhoeddedig o hynny.”

Rhoi adborth ar y tudalen hon