| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
09/04/2008 - Dyddiau Agored Treftadaeth Dyffryn Clwyd 2008

Teithiau Dyddiau Treftadaeth yn mynd yn sydyn

Mae Dyddiau Agored Treftadaeth Dyffryn Clwyd eleni mor boblogaidd ag erioed gyda llawer o’r teithiau a’r troeon yn cael eu bwcio’n sydyn iawn.


Ond y mae yna le’n dal ar ôl ar y teithiau a’r troeon canlynol felly beth am gysylltu i gadw lle a gofyn am gopi o’r arweinlyfr am ddim sy’n dangos y llu gweithgareddau eraill sydd ar gael dros y ddau benwythnos:


Y troeon a’r teithiau sy’n dal ar gael yn Rhuthun ar Fedi 13 a 14:

•     Teithiau Nantclwyd Y Dre gyda phensaer cadwraeth Sir Ddinbych
•     Teithiau Castell Rhuthun o gwmpas y castell canoloesol a’r tir o gwmpas
•     Taith Stryd y Ffynnon gyda Roger Edwards
•     Taith gerdded Ysbrydion yn esbonio gorffennol drychiolaethol Rhuthun
•     Darganfod Rhuthun y Canoloesoedd
•     Taith Trosedd a Chosb

Troeon a theithiau sydd ar gael yn Ninbych ar Fedi 20 a 21:

•    Teithiau cerdded H M Stanley  - efo’r dyn ei hun!
•     Taith gerdded Beatrix Potter a Dr Johnson
•     Taith Stryd y Dyffryn o welliannau Menter y Dreftadaeth Dreflun
•     Tai Syr E Guy Dawber - taith o gwmpas y tai a ddyluniwyd gan Dawber yn ac o gwmpas Dinbych
•     Teithiau Ysgol Howell
•     Darganfod Dinbych y Canoloesooedd

Mae darlith flynyddol Dyddiau Treftadaeth eleni yng Nghapel Pendref ar Fedi
23 am 7.30p.m. - Y Parch. Dr Ben Rees, ysgrifennwr Cymraeg o Lerpwl yn siarad am y cysylltiad rhwng Lerpwl a Chymru.


Bydd Timothy Hughes yn siarad am ei lyfr  “Wales’s Best One Hundred
Churches” ar Fedi 17 am 7.30p.m. yn Llyfrgell Dinbych.  Llyfr Tim yw’r arweinlyfr diffiniol ar drysorau anghydnabyddedig Ynysoedd Prydain.  Mae’r sgwrs yn fforio cyfres unigryw o agoriadau i hanes, diwylliant a thirwedd Cymru.


I ddarganfod beth arall sydd ar gael, ewch i’r wefan ar
www.treftadaethdyffrynclwyd.org.uk.  I fwcio un o’r teithiau a/neu archebu eich arweinlyfr am ddim, ffoniwch 01824 705274 / 01745 816313 neu e-bost
cynlluntreftadaeth@sirddinbych.gov.uk.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0