Bydd gwaith adeiladu adran newydd o’r llwybr beic o Ruddlan i’r Rhyl yn cychwyn yr wythnos nesaf.
Bydd yr adran newydd yn cysylltu Ffordd Derwen â Choleg Y Rhyl drwy Bwll Brickfields ac mae’n rhan o gynllun cyfredol Cyngor Sir Ddinbych i wella cyfleusterau i feicwyr yn Y Rhyl.
Mae Pwll Brickfields yn Warchodfa Natur Leol ddynodedig ac mae’r Cyngor yn bwriadu cadw’r effaith ar yr amgylchedd cyn lleied ag sydd bosib, a chynnig yr ateb gorau ar gyfer beicwyr a cherddwyr.
Fe adeiledir llwybr sy’n ddwy fedr o led drwy Brickfields, i ddilyn y llwybr presennol a bydd y Cyngor yn uwchraddio gorffeniad yr wyneb. Hefyd mae’r cynllun yn cynnwys lledu’r droedffordd ar hyd Ffordd Cefndy.
Mae’r gwaith adeiladu i gychwyn ar Fedi 8 a bydd rhan o’r llwybr o gwmpas Pwll Brickfields ar gau o ddydd Llun tan ddydd Gwener am 5 wythnos am resymau diogelwch.


Rhoi adborth ar y tudalen hon