| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
09/05/2008 - Taclo tai gwag yn Sir Ddinbych

Mae taclo problemau ynglŷn â thai gwag yn Sir Ddinbych ar yr agenda ar gyfer swyddog a gyflogir yn rhan o bartneriaeth arloesol.
Cyflogwyd Wendy Barnsley yn Swyddog Tai Gwag drwy bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Chymdeithas Tai Gogledd Cymru.
Y nod yw taclo problem tai gwag a’u dychwelyd i gael eu defnyddio fel tai fforddiadwy drwy drefniadau prydlesu neu brynu.
Mae oddeutu 1,800 o eiddo yn Sir Ddinbych yn wag ar hyn o bryd a bydd y swyddog newydd yn nodi lleoliad yr adeiladau hyn ac yn helpu perchnogion i’w hadfer i ddarparu llety i’r rhai sydd angen tai.  Gellir cymryd camau gorfodi os bydd raid.
Meddai’r Cynghorydd Pauline Dobb, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles, sy’n cynnwys tai, “Mae’r Cyngor a Chymdeithas Tai Gogledd Cymru yn rhagweithiol yn taclo’r mater yma o dai gwag drwy gyflogi swyddog pwrpasol sydd â’r dasg o symud y mater yn ei flaen.
“Mae hyn yn gam arloesol i ddelio â mater blaenllaw yng Ngogledd Cymru ac rydym yn ymwybodol fod hwn yn fater sy’n effeithio ar Sir Ddinbych gyfan. 
Dylai unrhyw un sy’n byw’n agos at, neu sy’n berchen ar dŷ gwag yn Sir Ddinbych gysylltu â Wendy Barnsley ar 01824 706530 neu e-bost: wendy.barnsley@denbighshire.gov.uk

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0