| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
09/05/2008 - Dathliadau diwedd cyfnod i Lys Nant

Gwahoddir cyn breswylwyr, ffrindiau a staff Cartref Preswyl Llys Nant, Prestatyn, i fynd ar drip o atgofion mewn dathliadau arbennig i nodi diwedd cyfnod yn y cartref.

Mae Llys Nant, a agorwyd ar Ragfyr 10, 1970, i gau i wneud lle ar gyfer cynllun tai gofal ychwanegol ar y safle, sy’n cael eu hadeiladu gan Gymdeithas Tai Wales & West.  Mae’r rhan fwyaf o’r preswylwyr wedi symud i gartrefi eraill neu’n bwriadu ail-leoli i gynlluniau cartrefi gofal ychwanegol yng Ngogledd Sir Ddinbych.

Cynhelir dathliad yn Llys Nant ar Fedi 19 rhwng  2pm a 7pm ac fe wahoddir y cyhoedd i fod yn bresennol.  Bydd yn gyfle i unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r cartref  ddod draw i weld arddangosfa o ffotograffau o’r blynyddoedd a fu, i rannu eu hatgofion a bydd yn gyfle delfrydol i ail-gyfarfod â ffrindiau a chydweithwyr.

Hefyd fe drosglwyddir capsiwl amser i Gymdeithas Tai Wales & West gyda phethau cofiadwy ynddo sy’n berthynol i Lys Nant a hefyd eitemau heddiw.

Meddai’r Cynghorydd Pauline Dobb, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles, "Mae Llys Nant wedi bod yng nghalon y gymuned leol am flynyddoedd lawer yn cynnig gwasanaeth ardderchog i gannoedd o drigolion dros y blynyddoedd.  Mae’n annwyl iawn yng nghalonnau pobl ac fe hoffem nodi’r garreg filltir arbennig yma yn ei hanes mewn steil.

"Dros y blynyddoedd, cawsom gymeriadau gwirioneddol yn Llys Nant ac o ystod eang o gefndiroedd.  Roedd un preswylydd yn aelod o gerddorfa ac un arall a oedd â’i wyneb yn ymddangos ar ganiau Ovaltine.

“Er mai dyma’r bennod olaf yn hanes Llys Nant, bydd pennod newydd yn cychwyn pan agorir y cynllun tai gofal ychwanegol ym Mhrestatyn.  Mae’n bwysig symud gyda’r amseroedd a darparu gofal o ansawdd, wrth ganiatáu i bobl fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.”
Oes gennych chi atgofion neu hen ffotograffau sy’n berthynol i Lys Nant? Os oes, cysylltwch â Viv Barlow ar 01745 854844 neu anfonwch nhw at: Gartref Preswyl Llys Nant, Ffordd Marine, Prestatyn, Sir Ddinbych LL19 7HP.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0