| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
09/05/2008 - Carreg filltir arbennig i ysgol newydd ym Mhrestatyn

Bydd ysgol newydd sbon ym Mhrestatyn yn dathlu carreg filltir arbennig yn ei hanes dydd Llun, Medi 8 pan fydd yn agor ei drysau i ddisgyblion am y tro cyntaf.

Martin Edwards, cyn bennaeth Ysgol y Faenol, Bodelwyddan sydd wrth y llyw yn Ysgol Clawdd Offa ac fe benodwyd tîm newydd sbon o athrawon.  Y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yw cadeirydd y llywodraethwyr.

Roedd yr ysgol i fod i agor ar ddydd Mawrth, Medi 2, ond fe benderfynwyd symud yr agoriad i Fedi 8 i ganiatáu i baratoadau terfynol gael eu cwblhau.

Bydd y datblygiad 2,500 medr sgwâr i’r gorllewin o  Ffordd Penrhwylfa, sydd wedi costio £5.6 miliwn,  yn gallu darparu ar gyfer 420 o leoedd amser llawn i ddisgyblion cynradd a 60 o leoedd rhan amser i ddisgyblion meithrin 3-4 oed. Fe’i dyluniwyd gan 3-D Sir Ddinbych, Gwasanaeth Pensaernïol Mewnol Sir Ddinbych.  Contractwyr David McLean a adeiladodd yr ysgol a’r ffordd fynediad.

Dyma’r ysgol newydd gyntaf i’w hadeiladu ers creu Cyngor Sir Ddinbych yn 1996.

Cychwynnwyd ar y gwaith adeiladu yn yr ysgol yn Ebrill 2007 ac mae paratoadau terfynol yn cael eu gwneud ar hyn o bryd, yn barod ar gyfer yr agoriad yr wythnos nesaf.  Mae’r ysgol yn cynnwys 15 o ddosbarthiadau, neuadd weithgareddau sy’n arwain at brif neuadd, toiledau, ystafelloedd newid, swyddfa’r prifathro, derbynfa, ystafell stoc, ystafell staff, llyfrgell, cegin ac ystafelloedd cotiau.

Meddai Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans, sydd hefyd yn Aelod Arweiniol y Cabinet dros Ddysgu Gydol Oes: "Mae hwn yn gyfnod gwirioneddol gyffrous yn hanes Ysgol Clawdd Offa. Mae’r datblygiad diweddaraf hwn yn rhan o raglen moderneiddio addysg Sir Ddinbych yn yr ardal ac rydym yn hynod falch fod y freuddwyd o ysgol newydd wedi cael ei gwireddu.  

“Rydym wedi gweithio’n agos gyda chontractwyr David McLean i greu ysgol sy’n edrych yn ardderchog ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda disgyblion a rhieni i sicrhau llwyddiant yr ysgol newydd."

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0