I'r bechgyn
Tra bod awduron megis Nick Hornby yn aml yn cael eu hystyried fel tadau ffuglen i ddynion, gellir diffinio'r ffurf hon yn fras fel llyfrau a ysgrifennwyd gan ddynion ac yn canolbwyntio ar gymeriadau ifanc (yn enwedig rhai ansensitif a hunanol) - mae’r traddodiad yn mynd yn ol i'r 1950au, mae'n debyg, gydag awduron megis Kingsley Amis (un o deidiau'r ffurf).
Mae cymeriadau ffuglen i ferched yn aml yn llawn steil; mae cymeriadau'r ffuglen hon yn aml yn ddi-glem - ddim yn cŵl o gwbl. Mae'r casgliad hwn ychydig yn ehangach ac er ei fod yn cynnwys rhai clasuron, mae'n cynnig ystod mwy cynhwysfawr o ffuglen sy'n ddeniadol i ddynion sy’n adlewyrchu cymhlethdodau bod yn ddyn yn y 21ain ganrif.


Rhoi adborth ar y tudalen hon