Eithafion
I'r rhai ohonom sy'n troi'r gwres canolig i fyny os yw'r tymheredd yn gostwng gan y pwynt lleiaf, nid yw'r syniad o wynebu amodau rhewllyd, corwyntoedd, moroedd mynyddig, eira, cwympiadau eira ac eithafion natur yn apelio o gwbl.
I rai pobl, serch hynny, mae wynebu eithafion yn ffordd o fyw bron, wrth iddynt archwilio rhai o rannau mwyaf anodd y blaned. O gopa mynyddoedd i waelod y môr, mae'r casgliad hwn yn dwyn at ei gilydd storïau bywyd go iawn o ddewrder a goroesiad yn erbyn amodau anodd. Casgliad gwych i'r anturiwr cadair esmwyth sydd eisiau'r profiad heb y llosg rhew.


Rhoi adborth ar y tudalen hon