| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Asiantaeth Datblygu Cymunedol
Croeso i'r Asiantaeth Datblygu Cymunedol - hyfforddiant a chefnogaeth Technoleg Gwybodaeth am ddim.

Oriau agor
Dydd Llun - dydd Gwener  9.30am - 3.30pm
 
Mae Canolfan Adnoddau a Datblygu llawn offer ac adnoddau wedi’i sefydlu yn Adeiladau’r Orsaf yn y Rhyl, i ddarparu ystod eang o offer i gynorthwyo gweithgareddau cymunedol ar ac oddi ar y safle. 

Ein nod ydy sicrhau eich bod chi’n cael cyfle i ddysgu a datblygu sgiliau mewn awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar, cwrdd â phobl newydd a chynyddu eich hyder. 

Buom yn llwyddiannus yn denu cyllid Ewropeaidd i sefydlu rhaglen Cysylltiadau Gwaith Newydd yn Sir Ddinbych yn ddiweddar.  Nod y prosiect tair blynedd hon ydy cynorthwyo pobl yn y gymuned i feithrin sgiliau hanfodol bwysig a allai eu cynorthwyo i gael swydd, gwneud gwaith gwirfoddol neu fynd i addysg amser llawn.  Rydyn ni’n darparu mentoriaid Technoleg Gwybodaeth yn y gwahanol leoliadau cymunedol hefyd, i roi cymorth a chefnogaeth â sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol. 

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych