Mae’r cyngor yn chwilio am 500 o breswylwyr sy’n fodlon ymuno â Phanel Dinasyddion i helpu i siapio cyfeiriad gwasanaethau’r cyngor yn y dyfodol.
Bydd y rhai sydd â diddordeb mewn ymuno’n derbyn arolygon i’w cwblhau a byddwn yn gofyn am wirfoddolwyr o’r Panel i gymryd rhan mewn cyfarfodydd a grwpiau ffocws ar bynciau sydd o ddiddordeb penodol. Fe fyddwn yn gofyn am farn y panel ar ystod o bynciau, er enghraifft, am wasanaethau cyfredol y cyngor a beth ddylai’r cyngor fod yn ei wneud yn y dyfodol. Pan fyddwn yn datblygu Strategaeth Gymunedol newydd Sir Ddinbych fe allwn ofyn hefyd am farn y panel ar wasanaethau cyhoeddus eraill.
Fe gyhoeddir newyddlen reolaidd i adborthi canlyniadau ac i hysbysu aelodau o sut y mae’r cyngor yn bwriadu ymateb.
Meddai’r Cynghorydd Sharon Frobisher, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gymunedau: “Mae’r Cyngor yn gwir werthfawrogi barn ei drigolion ac mae wedi penderfynu ail-lansio’r Panel Dinasyddion gyda’r bwriad o annog mwy o bobl i gael rhoi eu barn ar wasanaethau’r cyngor. Rydym yn chwilio am bobl o bob galwedigaeth ac o bob cymuned yn y sir. Mae hwn yn gyfle da i bobl weithio gyda ni i helpu i siapio dyfodol gwasanaethau’r cyngor. Bydd eu barn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol'.
Rydym yn annog ceisiadau gan bobl anabl a phobl dduon a’r rheiny sydd o gefndir lleiafrifol ethnig. Sylwch fod yn rhaid i chi fod yn 16 oed neu hŷn i fod ar banel Dinasyddion Sir Ddinbych.
Bydd aelodau’r panel yn gallu hawlio costau teithio. Nodwch y bydd y 500 aelod i'r panel yn cael eu dewis o'r holl geisiadau fydd yn adlewyrchu poblogaeth Sir Ddinbych.
Os hoffech chi ymuno â Phanel Dinasyddion Sir Ddinbych, llenwch y ffurflen gais drwy glicio ar y cysylltiad canlynol: -
Am wybodaeth bellach cysylltwch â’r Uned Polisi Strategol ar 01824 706184.


Rhoi adborth ar y tudalen hon