Rydym yn ystyried gosod mwy o gatiau ali yn Sir Ddinbych. Y broses yw bod pobl leol neu Aelodau Etholedig yn gofyn am gael gatiau i ymateb i broblemau yn eu Cymuned. Rydym wedi arolygu'r ardal a phenderfynwyd y gallai gatiau ali fod o gymorth. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gadael i chi, y gymuned, wybod beth sy'n cael ei ystyried gan ganiatáu i chi wneud sylwadau. Gellir gweld copïau o’r gorchmynion arfaethedig ynghyd â’r cynlluniau yn dangos y llwybrau troed sy’n cael eu heffeithio yn siopau Un Alwad Sir Ddinbych yng Nghorwen, Dinbych, Llangollen, Prestatyn, Rhuddlan, Rhyl, Rhuthun a Llanelwy.
Os dymunwch roi sylwadau a ddylid gwneud Gorchymyn Gatiau neu beidio, gallwch wneud hynny trwy e-bostio cymuned.diogelwch@sirddinbych.gov.uk neu ar y wefan neu trwy ysgrifennu at:
Glerc y Sir
Cyngor Sir Ddinbych
Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1YN
Daw'r cyfnod ymgynghori i ben ar 7 Rhagfyr 2008.
Mae codi gatiau ar draws yr ali yn ffordd o atal trosedd. Y bwriad yw lleihau cyfle i bobl wneud troseddau megis dwyn, torri i mewn, dwyn ceir, gwerthu cyffuriau, difrod troseddol ac ymddygiad gwrth gymdeithasol. Mae sawl ali yn ddiweddar wedi cael eu galw yn 'Rat Runs' a gellir eu disgrifio fel gwythiennau trosedd.
Yn Sir Ddinbych mae gennym eisoes 30 giât ali mewn gwahanol leoliadau o amgylch y Rhyl. Codwyd y giât gyntaf erbyn Rhagfyr 2003, ac yn ystod y cyfnod hwnnw gwelodd Sir Ddinbych gryn leihad mewn trosedd. Gatiau ali yw un o'r ffactorau sy'n golygu bod Sir Ddinbych yn rhedeg un o'r Partneriaethau Diogelwch Cymunedol gorau. Dros y 3 mlynedd diwethaf cafwyd lleihad o dros 40% mewn troseddu neu yn y 12 mis diwethaf bu tua 2,500 yn llai o bobl yn dioddef trosedd nag yn 2003 / 2004.
Manteision eraill yn ogystal â lleihau lefel trosedd yw :-
• Llai o gyfle i bobl ifanc fod yn niwsans - gall hyn olygu unrhyw beth o yfed yn yr ali i gymryd cyffuriau.
• Llai o broblemau cŵn yn baeddu a chŵn strae a pherchnogion cŵn diofal
• Llefydd chwarae diogel i blant
• Gwella ysbryd cymunedol i roi perchnogaeth o'r ali ac adfer llefydd lle na fyddai pobl yn hoffi mynd yno ar ôl iddi dywyllu.


Rhoi adborth ar y tudalen hon