Arswyd
The StrangersTystysgrif 15
Ffilm arswyd frawychus am bâr ifanc (Liv Tyler a Scott Speedman) mewn tŷ swbwrbaidd unig sy’n cael eu targedu gan dri dieithryn yn gwisgo mygydau. Mae’r gwrthdrawiadau sy’n deillio o hynny yn gorfodi’r cwpl i fynd ymhell y tu hwnt i’r hyn roeddynt yn gredu y gallent ei wneud, er mwyn goroesi.
Shoot on SightTystysgrif 15
Ffilm ffuglen llawn cyffro wedi’i seilio ar y bomio gan derfysgwyr yn Llundain ar 7/7 a gorchymyn yr heddlu i saethu pan fyddent yn gweld troseddwyr. Mae’r ffilm yn dangos y tanchwa ym mywyd Tariq Ali, heddwas Mwslim yn Scotland Yard. Gofynnir i Ali ymchwilio i’r heddlu yn saethu un a amheuwyd o fod yn derfysgwr Mwslemaidd yn system drenau danddaearol Llundain. Mae’n canfod rhwystrau i’r ymchwiliad o bob tu, nid yn unig oherwydd diffyg ymddiriedaeth ei uwch swyddogion ynddo ond hefyd diffyg ymddiriedaeth ei gyd-Fwslemiaid. Pan ddaw tystiolaeth i’r golwg sy’n awgrymu bod y dyn a laddwyd yn ddieuog, a bod cell derfysgol yn gweithredu yn ei ardal ei hun, mae’n rhaid i Tariq wynebu’r sylweddoliad mai weithiau y penderfyniad cywir yw’r un anoddaf un.
Bangkok DangerousTystysgrif 18
Seren y ffilm Bangkok Dangerous yw Nicholas Cage fel llofrudd llogedig sy’n teithio i Bangkok i gwblhau tasg a fydd yn newid ei fywyd am byth ...
The Hunting PartyTystysgrif 15
Mae’r gohebydd newyddion teledu Simon Hunt a’r dyn camera Duck wedi gweithio yn ardaloedd rhyfel gwaethaf y byd, a chyda’i gilydd maent wedi osgoi bwledi, darparu adroddiadau cynhwysfawr ac ennill gwobrau Emmy. Yna un diwrnod mewn pentref yn Bosnia mae popeth yn newid. Yn ystod darllediad ar deledu cenedlaethol mae Simon yn ei cholli yn llwyr. Wedi hynny, mae Duck yn cael ei ddyrchafu ac mae Simon yn diflannu. Bum mlynedd yn ddiweddarach mae Duck yn dychwelyd i Sarajevo gyda’r gohebydd newydd ei benodi Benjamin i gofnodi’r pumed pen-blwydd ers diwedd y rhyfel. Ond mae Simon yn dod atynt ac yn addo ‘ecscliwsif’ byd-eang iddynt. Mae’n darbwyllo Duck ei fod yn gwybod lle mae troseddwr rhyfel mwyaf Bosnia, ‘The Fox’. Ar sail gwybodaeth brin, heb ei dilysu, mae Simon, Duck a Benhamin yn mynd ar gyrch peryglus. Ond a fyddant yn byw i adrodd eu hynt?



Rhoi adborth ar y tudalen hon