| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Swyddog Cynhaliaeth Tai hefo Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai Sir Ddinbych - Aled

Swyddog Cynhaliaeth Tai hefo Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai Sir Ddinbych - Aled

Mae bod yn Swyddog Cynhaliaeth Tai yn golygu fy mod yn edrych ar ôl stoc dai'r cyngor. Mae hyn yn golygu asesu gwaith cynhaliaeth a strwythurol sydd angen cael ei wneud. Rwyf hefyd yn edrych ar ôl y stadau - ffensio, llwybrau a'r math hwn o beth.

Rwyf wedi bod yn fy swydd am 4 blynedd yn awr yn Neuadd y Sir, Rhuthun. Cyn hynny roeddwn yn saer, yn gweithio gyntaf ar Lannau Dyfrdwy yn gwneud gwaith cynhaliaeth ar dafarndai, ac wedyn i Gyngor Sir Ddinbych. Ymunais â'r Cyngor Sir hefo'r bwriad o symud i wneud gwaith swyddfa.

Mae pwyntiau da a drwg am fy swydd. Un peth nad wyf yn ei fwynhau yw cael galwadau ffôn gan denantiaid sy'n flin gan nad ydynt yn deall bod rhaid i ni drefnu gwaith argyfwng o fewn categorïau. Rhaid i ni ddilyn amserlenni gwahanol yn ôl blaenoriaeth y gwaith ac mae hi’n anodd egluro i rywun sy'n methu gweld pam na allant gael blaenoriaeth i waith atgyweirio.

Y pwyntiau da yw fy mod yn gweithio hefo pobl dda, ac rwy'n mynd allan i asesu eiddo, felly dydw i ddim yn glwm wrth fy nesg trwy'r dydd. Rwy'n mwynhau'r gwaith ac mae mwy o bwyntiau da na rhai gwael.

Mae fy hyfforddiant yn cynnwys Gwobr City & Guilds mewn Gwaith Saer, prentisiaeth 5 mlynedd, HNC ac rwyf nawr yn astudio at radd mewn Cynhaliaeth Tai. Mae'r Cyngor Sir yn cefnogi fy ngradd ac rwy'n mynd i goleg Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam, un dydd yr wythnos. Byddaf yn cwblhau'r cwrs mewn 2 flynedd.

Byddwn yn bendant yn argymell gweithio i Sir Ddinbych i unrhyw un sy'n meddwl am symud i weithio i Awdurdod Lleol. Mae'r cynllun gweithio hyblyg a'r cynlluniau pensiwn yn ardderchog, ac rwyf wedi cael cymorth i ennill cymwysterau ychwanegol i'm helpu i symud ymlaen yn fy ngyrfa.

Yn y dyfodol rwy'n gobeithio datblygu i fod yn uwch swyddog, ac efallai yn Brif Swyddog ar ôl hynny. Hoffwn aros o fewn yr Adran Dai ond mae gen i hefyd y dewis o symud i adran arall os daw cyfle. Rwy'n hapus ble rydw i am rŵan, a rhaid i mi aros i weld beth ddaw yn y dyfodol.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0