| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Cymorth a gwybodaeth ar ôl digwyddiad o bwys - Gwefan Directgov
Direct Gov

Cymorth a gwybodaeth ar ôl digwyddiad o bwys
Ar ôl digwyddiad o bwys, fel ymosodiad terfysgol neu drychineb naturiol ar raddfa eang, mae'n aml yn anodd gwybod at bwy i droi a lle i fynd i gael gwybodaeth. Mewn achos o ddigwyddiad o bwys, bydd hafan Directgov a'r tudalennau hyn yn cael eu diweddaru'n rheolaidd er mwyn rhoi gwybodaeth am y digwyddiad, gan gynnwys pwy y dylech gysylltu â hwynt am gymorth a chefnogaeth frys. Mae'r wybodaeth sydd ar gael yma'n barhaol yn cynnig cymorth a chefnogaeth yn y tymor hwy i rai yr effeithiwyd arnynt gan ddigwyddiad o bwys ac i'r rheini sy'n poeni am ffrindiau neu berthnasau. Nid yw'r wybodaeth yn cael ei rhoi yn lle'r wybodaeth a ddarperir gan wasanaethau cymorth sy'n bodoli eisoes, ond yn hytrach mae'n eich cyfeirio at fudiadau a all helpu.

Swyddogaeth yr heddlu, y Gaolgan Ddamweiniau ac awdurdodau lleol mewn digwyddiadau o bwys
Defnyddio Canolfan Ddamweiniau'r Heddlu a llinellau cymorth i wneud ymholiadau am rywun a allai fod wedi bod yn rhan o ddigwyddiad o bwys.

Y Llywodraeth a sefydliadau cymorth
Adrannau ac asiantaethau allweddol y llywodraeth ganolog a llywodraeth leol a fydd yn rhoi help ar ôl argyfwng, yn ogystal â manylion cyswllt ar gyfer mudiadau cymorth eraill.

Ymateb seicogymdeithasol I ddigwyddiad o bwys
Cyngor am sut y byddwch yn teimlo ac yn ymddwyn o bosib (eich ymateb seicogymdeithasol), ar ôl digwyddiad o bwys, a ble y gallwch fynd i gael cymorth a chefnogaeth.

Delio â'r cyfryngau
Canllaw ar ddelio â'r cyfryngau, gan gynnwys beth i'w wneud os nad ydych eisiau siarad â hwy, yn ogystal â'r safonau y dylai newyddiadurwyr gadw atynt wrth weithio.

Ffurfio grwpiau cefnogi a nodi pen-blwyddi
Cyngor am ffurfio neu ymuno â grŵp cymorth ar ôl digwyddiad mawr trawmatig, yn ogystal â chyngor am ddelio â phen-blwyddi.

Argyfyngau dramor
Mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn ffynhonnell allweddol o wybodaeth am beth allwch ei wneud a phwy i gysylltu â hwynt os bydd argyfwng dramor yn effeithio arnoch.

Cyngor ariannol a chyfreithiol ar ôl digwyddiad o bwys
Canllaw i'r cymorth ariannol sydd ar gael ar ôl argyfwng, gan gynnwys derbyn iawndal am anafiadau a budd-daliadau gan y wladwriaeth, yn ogystal â ble i fynd i gael cyngor cyfreithiol.

Helpu plant yr effeithir arnynt gan achos brys
Gwybodaeth i rieni, gofalwyr ac ysgolion er mwyn eu helpu i ddygymod ag effeithiau emosiynol a chorfforol digwyddiad o bwys, gan gynnwys clinigau arbenigol a mudiadau sy'n cynnig cymorth.

Cwestau a threialon ar ôl argyfwng
Cyflwyniad i'r cysylltiadau a'r prosesau allweddol os byddwch yn rhan o ymchwiliad sy'n cynnwys cwest neu dreial ar ôl digwyddiad o bwys.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0