Theatr Y Pafiliwn Rhyl
Promenade
Y Rhyl
LL18 3AQ
Teleffon:
Swyddfa Docynnau: 01745 330 000 / Gweinyddu: 01745 332414
Ffacs:
01745 339819
Fe agorodd Theatr y Pafiliwn ym Medi 1991. Bydd yn cyflwyno amrywiaeth eang o theatr gerddorol, drama, dawns, comedi, theatr gymunedol a theatr plant. Fe ddyluniwyd yr Awditoriwm o 1000+ i gymryd cynulleidfaoedd theatr a chyngherddau cerddorfaol ynghyd â chynrychiolwyr cynadleddau. Mae gan y Theatr hefyd ystod o ystafelloedd a chyfleusterau sydd ar gael ar gyfer seminarau, cynadleddau, cyfarfodydd, achlysuron priodas, dyddiau hyfforddi a nosweithiau cyflwyniadau ac mae arlwyo ar gael ar gais.
Cliciwch ar Theatr y Pafiliwn ar y chwith i gael rhaglen y theatr, trefniadau bwcio, manylion cyswllt a lleoliad.
Oriau agor y Swyddfa Docynnau
Llun - Sadwrn
10:00am tan Godi’r Llenni ar ddyddiau perfformiadau.
10:00am tan 6:00pm ar ddyddiau heb berfformiad.
Sul
4:00pm tan Godi’r Llenni ar ddyddiau perfformiad.
Ar gau ar ddyddiau heb berfformiad
Oriau agor y Swyddfa
Llun - Gwener: 9:00am tan 5:00pm


