| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Maethu Preifat

Ydych chi'n edrych ar ôl plentyn, ond dydych chi ddim yn berthynas nac yn warcheidwad cyfreithiol iddo? Os hynny, dydych chi ddim ar eich pen eich hun.

MAETHU PREIFAT – RHOWCH WYBOD I'R GWASANAETH PLANT.

Amcangyfrifir bod dros 12,000 o blant Cymru a Lloegr yn cael eu maethu yn breifat.

Diffinnir plant sy'n cael eu maethu'n breifat fel plant o dan 16 (neu o dan 18 hefo anableddau) sy'n byw hefo person sydd ddim yn berthynas neu warcheidwad cyfreithlon am fwy na 28 dydd.

Mae gan y gwasanaeth plant ofyniad cyfreithiol i sicrhau diogelu lles y plant hynny ac addasrwydd yr un sy'n edrych ar eu hol. Os ydych yn edrych ar ôl plentyn rhywun arall am fwy na 28 dydd mae gofyn i chi adael i'r Gwasanaeth Plant wybod am hynny.

Gall y Gwasanaeth Plant roi cyngor a chymorth i chi - dydyn ni ddim eisiau amharu ar rywbeth sy'n gweithio'n dda. Rydym eisiau i drefniadau preifat fynd mor llyfn â phosibl ac os gallwn helpu mewn unrhyw ffordd, fe wnawn. 

Dylai unrhyw un yn Sir Ddinbych sy'n maethu plentyn yn breifat ac sydd heb roi gwybod i ni, sydd ddim yn gwybod bod angen gwneud hyn, neu sy'n bwriadu maethu'n breifat yn y dyfodol, gysylltu hefo'r Gwasanaeth Plant.

Ffoniwch: Cyngor Sir Ddinbych, Gwasanaethau Plant, 64 Ffordd Brighton, Y RHYL, Sir Ddinbych, LL18 3HN

Rhif ffôn : 01824 712900

Peidiwch â pheryglu diogelwch eich plentyn - mae rhoi gwybodaeth yn helpu cadw plant yn ddiogel


 

Ymlyniadau
 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych