Ar y tudalennau hyn mae gwybodaeth am y gwahanol gynlluniau ailgylchu sydd yn Sir Ddinbych.
Compostio Cartref - rydym yn gwerthu compostwyr 320 litr i’r rhai sydd â diddordeb mewn creu compost gardd. Agorwch y linc ar y chwith i gael mwy o wybodaeth.
Napis iawn - mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynnig talebau gwerth £75 i rieni sy’n dymuno defnyddio clytiau iawn yn lle rhai papur. Agorwch y linc ar y chwith i gael mwy o wybodaeth.
Ailgylchu biniau glas a Chasglu Gwastraff Bwyd - Os ydych yn rhan o’r cynllun cist olwyn x2 du a gwyrdd, yna cesglir eich gwastraff ailgylchu mewn cist olwyn las. Mae gwasanaethau casglu gwastraff bwyd ar gael hefyd yn yr ardaloedd hyn. Agorwch y linc ar y chwith i gael mwy o wybodaeth.
Sachau ailgylchu glas a gwyn - Os yw eich sbwriel yn cael ei gasglu’n wythnosol mewn sachau pinc, yna bydd eich sbwriel ailgylchu’n cael ei gasglu mewn Sachau Ailgylchu Glas a Gwyn. Agorwch y linc ar y chwith i gael mwy o wybodaeth.
Parciau ailgylchu – mae 3 parc ailgylchu yn Sir Ddinbych. Agorwch y linc ar y chwith i gael mwy o wybodaeth.


