| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Gwrteithiwr Cartref
Komp 320

Prynwch Fin Gwrteithio am £15
I annog preswylwyr leihau eu gwastraff trwy gompostio yn yr ardd, mae Sir Ddinbych yn cynnig cyfle i breswylwyr brynu bin compost am bris gostyngol o £15. Mae'r Komp 320 yn dal 320 litr ac mae ar gael i'w gasglu o depo Parc Kinmel, depo Lôn Parcwr, Rhuthun neu o Siop Un Alwad Llangollen.

Sut i archebu

Casglu o depo Parc Kinmel, Bodelwyddan, LL18 5UX

  • Talu hefo arian parod ym Modelwyddan adeg ei gasglu.
  • Ffonio ymlaen llaw a thalu dros y ffôn trwy ffonio 01824 706100.
  • Gallwch dalu yn un o'n Siopau Un Alwad a dowch a’ch derbynneb pan fyddwch yn ei gasglu.

Casglu o depo Lon Parcwr, Rhuthun, LL15 1NA

  • Ffonio ymlaen llaw a thalu dros y ffôn trwy ffonio 01824  706100.
  • Gallwch dalu yn un o'n Siopau Un Alwad a dowch a’ch derbynneb pan fyddwch yn ei gasglu.

Casglu o Siop Un Alwad Llangollen, LL20 8NY

  • Talwch hefo arian parod, cerdyn credyd neu gerdyn debyd yn Siop Un Alwad  Llangollen.
  • Ffonio ymlaen llaw a thalu dros y ffôn trwy ffonio 01824 706100.

Sut i wrteithio

Mae gwrteithio gartref yn hawdd, ac yn wych i'r ardd. Medrwch wrteithio'r cyfan yn y rhestr ganlynol:

  • Pilion llysiau a ffrwythau
  • Dail te, coffi wedi ei ddefnyddio a phlisgyn wy wedi ei falu
  • Chwyn
  • Toriadau gwair
  • Gwallt
  • Papur
  • Baw anifeiliaid
  • Clipion coed bythwyrdd
  • Dail
  • Tociadau
  • Gwellt a gwair
  • Llwch o'r peiriant sugno llwch

Nid yw popeth yn addas i'w wrteithio. Dylech osgoi'r canlynol:

  • Hylif o'r corff, clytiau papur, hen hancesi papur (rhag ofn nad yw'r pathogenau sy'n cludo afiechyd oll wedi eu dinistrio gan y broses wrteithio)
  • Ysgarthion – pobl/ cŵn /cathod (am yr un rheswm)
  • Cerdyn neu bapur lliwgar neu sglein
  • Gwrthrychau caled, cerrig, darnau o wydr, metel, plastig
  • Hylif glanhau a chemegau tŷ/gardd eraill
  • Cig (wedi ei goginio ac yn amrwd) - gall yr arogl ddenu anifeiliaid

Beth i'w wneud hefo eich compost
Peidiwch â phoeni os nad yw eich compost yn edrych yr un fath â chompost y ganolfan arddio. Fe all fod yn lympiog hefo brigau a darnau o blisg wyau ond cyn belled â’i fod yn frown, yn feddal ac yn ogleuo fel daear mae’n barod i'w ddefnyddio.
Os oes darnau mawr o bren yn eich compost bydd yn ddelfrydol i’w ddefnyddio fel mwlch o amgylch coed a llwyni. Bydd hyn yn cadw’r chwyn i lawr ac yn bwydo’r planhigion.
Gellir defnyddio compost fel stwff potio planhigion tŷ neu i ddechrau planhigion newydd o hadau. Rhaid i tua thraean y cymysgedd fod yn gompost a’r gweddill yn bridd. Bydd y cymysgedd yn caniatáu i’r planhigion wreiddio’n gadarn.
Bydd lawnt newydd ei hadu neu lawnt aeddfed yn gwella o gael compost arni. Bydd cymysgu’r compost hefo tywod yn ei helpu i ledaenu’n fwy cyfartal.
Mae Compost yn llawn o faeth ac mae’n helpu gwella ansawdd y pridd, rheoli lefelau lleithdra ac atal afiechydon planhigion. Cymysgwch y compost i’r pridd o amgylch eich planhigion, eich blodau neu eich gwely llysiau. Bydd hyn o gymorth i adnewyddu mwynau gwerthfawr yn y pridd.

Ymlyniadau
 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych