Defnyddiwch Glytiau Go Iawn – Arbed Arian a'r Amgylchedd
Mae babi, ar gyfartaledd, yn defnyddio 5,000 o glytiau. Os ydych yn defnyddio rhai papur, ni ellir ailgylchu nac ailddefnyddio'r rhain ac mae'n rhaid iddynt gael eu tirlenwi, lle byddant yn aros am gannoedd o flynyddoedd. Yng Nghymru, teflir rhyw 200 miliwn o glytiau i ffwrdd bob blwyddyn.
Mae clytiau ailddefnyddiadwy modern yn hawdd i'w defnyddio, ac mae llawer o opsiynau gwahanol.
- Mae clytiau cotwm modern yn dod mewn amrywiol siapiau a math gyda chlymwr Velcro a phopiwr - mae'r dyddiau o blygu a phinnau drosodd!
- Gall rhieni arbed cannoedd o bunnau trwy ddefnyddio clytiau cotwm – a gall yr arbedion fod yn fwy fyth i ail neu drydydd plentyn.
- Mae golchi clytiau cotwm yn hawdd - dim angen berwi neu fwydo - dim ond golchi ar 60 gradd.
Er hwylustod mwyaf, mae gwasanaethau golchi clytiau yn casglu clytiau budr a dosbarthu rhai glân yn uniongyrchol at y drws. - Nid oes mwy o berygl o frech clwt yn dod o glytiau cotwm na rhai papur – mae brech clwt yn cael ei achosi gan lawer o ffactorau megis diet ac alergeddau.
I annog mwy o rieni yn Sir Ddinbych i ailgylchu, mae'r Cyngor yn cynnig cymhelliad ariannol i rieni sy'n defnyddio clytiau ailddefnyddiadwy.
Cynllun Cymell
Mae'r Cyngor yn cynnig talebau gwerth hyd at £75 i'w defnyddio fel rhandal naill ai ar gyfer prynu clytiau go iawn neu i ddefnyddio'r Gwasanaeth Golchi Clytiau Go Iawn.
I gymhwyso:
- Rhaid i chi a'ch plentyn fyw yn Sir Ddinbych
- Rhaid i'ch plentyn fod rhwng 0 a 18 mis oed
Byddwch yn derbyn talebau gwerth £25 yr un pan fo eich baban yn 0-3 mis oed, 4-9 mis a 10-18 mis oed.
Dylech anfon copi o'r Dystysgrif Geni a dau fil amwynderau (utilities bills) diweddar neu eich bil Treth y Cyngor diweddaraf. Rydym nawr yn derbyn MAT B1 yn lle'r dystysgrif geni gan rieni sy'n dymuno gwneud cais am dalebau cyn geni'r babi.
Preswylwyr Sir Ddinbych cysylltwch a -
Rhif ffôn: 01824 706100
E-bostiwch: gwasanaethcwsmer@sirddinbych.gov.uk
Preswylwyr Sir Fflint cysylltwch a -
Rhif ffôn: 01352 701714
E-bostiwch: kerbsiderecycling@flintshire.gov.uk
Gwefan: www.siryfflint.gov.uk
Derbynnir y talebau hyn gan y cwmnïau canlynol:
BabyKind - Ffôn: 01286 882617 - Gwefan: www.babykind.co.uk
Babipur - Ffôn: 01766 770644 - Gwefan: www.babipur.co.uk
Bambino Mio - Gwefan: www.bambinomio.com
Buzz Baby - Gwefan: www.buzzbaby.co.uk
Clean Green Nappy Machine - Gwefan: http://www.cleangreennappy.co.uk
Cottontails Nappy Laundry Service - Ffôn: 01244 374521 - Gwefan: www.cottontails.co.uk
Green Jelly - Ffôn: 0845 269 8521 - Gwefan: www.greenjellyshop.co.uk
Happy Nappies - Suzanne (Independent Nappy Advisor) - Ffôn: 01691 610936 / 07974 152022 - Gwefan: www.happynappies.net
Hello Baby - Ffôn: 020 33970440 - Gwefan: www.hellobabydirect.co.uk
Little Green Earthlets - Ffôn 0845 0724462 - Gwefan: www.earthlets.co.uk/
Little Lamb - Ffôn 01269 845455 - Gwefan: www.littlelamb.co.uk
Little Pants - Gwefan: www.littlepants.co.uk
Lizzie's Real Nappies, Chester - Ffôn: 01244 346797 - Gwefan: www.lizziesrealnappies.co.uk
Lollipop Nappies - Gwefan: www.teamlollipop.co.uk
Mami Green - Gwefan: www.mamigreen.co.uk
The Nursery Window, Y Rhyl - Ffôn: 01745 330115
The Nappy Lady - Gwefan: www.thenappylady.co.uk
Tots Bots - Gwefan : www.totsbots.com

