Parciau Ailgylchu
Mae 3 Parc Ailgylchu yn Sir Ddinbych y Rhyl, Dinbych, a Rhuthun. Mae’r safleoedd hyn yn derbyn gwastraff t? yn unig, i'w waredu neu i’w ailgylchu.
Ar gyfer system sęt nef (SAT NAV) y cod post yw:
- Y Rhyl, Marsh Road - LL18 2AD
- Dinbych, Colomendy - LL16 5TA
- Rhuthun, Lon Parcwr - LL15 1BB
Oriau agor
Dinbych a Rhuthun
BST (Haf).
Llun – Gwe: 10.00 – 18.00
Sad / Sul: 09.00 – 17.00
GMT (Gaeaf). Mae'r gaeaf yn dechrau pan fydd y clociau'n troi yn ôl i GMT mis Hydref.
Llun – Gwe: 10.00 – 16.00
Sad / Sul: 09.00 – 16.00.
Wedi cau 25ain, 26ain Rhagfyr ac 1af Ionawr.
Y Rhyl
10.00 -18.00 7 diwrnod yr wythnos, trwy gydol y flwyddyn.
Wedi cau 25ain, 26ain Rhagfyr ac 1af Ionawr.
Ailgylchu Corwen yn y Depo Priffyrdd
Fe ddarperir cyfleusterau ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu, gwastraff gardd ac eitemau ailgylchu ar y dydd Sadwrn cyntaf a’r trydydd dydd Sadwrn o bob mis rhwng 9am ac11am yn - y Depo Priffyrdd, Stad Ddiwydiannol Tyn y Llidiart, Corwen, LL21 9RR
Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol Llangollen, Ffordd yr Abaty, Llangollen, LL20 8SW
Fe ddarperir cyfleusterau ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu ac eitemau ailgylchu ar yr ail ddydd Sadwrn a’r pedwerydd dydd Sadwrn bob mis rhwng 9am ac 11am.
Fe ddarperir cyfleusterau gwastraff gardd yn wythnosol ar ddyddiau Sadwrn rhwng 9am ac 11am.
Van Ban
Gweithredir Van Ban ym mhob un o barciau ailgylchu Sir Ddinbych. Ni dderbynnir unrhyw wastraff masnach neu fusnes ym mharciau ailgylchu Sir Ddinbych.
Sbwriel Adeiladu, briciau, teiliau, pridd
Nid yw'r gwastraff uchod yn cael ei gyfrif fel gwastraff domestig (hyd yn oed os yw'n tarddu o gartref) ac nid oes gan Sir Ddinbych unrhyw orfodaeth i dderbyn y math hwn o wastraff yn ei safleoedd. Rydym yn derbyn swm bach o'r gwastraff hwn ond dim mwy na 3 llond bag pob mis. Os bydd angen cael gwared o fwy o'r math hwn o wastraff yna dylid hurio sgip gan gwmni trwyddedig.
Asbestos
Os bydd deunydd asbestos mewn cyflwr a chyweiriad da a does dim angen ei symud - gadewch o wedi’i selio a gadewch lonydd iddo fo!
Os oes angen ei symud, mae’r Cyngor yn argymell eich bod yn cysylltu â chwmni arbenigol a/neu gontractwr trwyddedig i gynnal yr arolwg ac i symud/waredu’r asbestos.
Gall y Cyngor dderbyn gwastraff asbestos cartref e.e. blancedi tân, hen fyrddau smwddio etc ym Mharc Ailgylchu’r Rhyl
Er nad ydi o’n wastraff cartref, fe wnaiff y Cyngor dderbyn hyd at dri bag neu becynnau o haenau asbestos bondiog gan breswylwyr Sir Ddinbych. Mae’n rhaid i’r asbestos fod wedi ei lapio’n ddwbl neu ei fagio’n ddwbl efo polythen cryf.
Ceisiwch gyngor gan un o’r staff wrth gyrraedd ac fe wnân nhw ddangos i chi lle mae’r sgipiau asbestos seiliedig wedi eu lleoli. Fe ofynnir i breswylwyr ddarparu eu henw a’u cyfeiriad wrth waredu’r gwastraff asbestos.
Ni dderbynnir symiau mawr o asbestos yn y Parc Ailgylchu. Ni ellir gadael unrhyw wastraff masnachol o gwbl yn unrhyw un o Barciau Ailgylchu Sir Ddinbych.


