| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Casgliad Sachau Glas a Gwyn
Casgliad Sachau Glas a Gwyn

Mae eiddo sydd ddim yn addas i gist olwyn, neu o fewn cymunedau gwledig nawr yn gallu ailgylchu tuniau, caniau, poteli gwydr, cardfwrdd a phapur gan i ni gyflwyno cynllun sachau ailgylchu glas a gwyn.

Bydd pob eiddo yn derbyn rholyn o sachau glas a rholyn o sachau gwyn a thaflen gwybodaeth a chalendr.

Beth sy'n mynd i ble?

Eich Sach Glas

Oes Plis

  • Cardbord e.e. Bocsys Grawnfwyd, Bocsys Bwyd, Bocsys Cludo, Cardiau, Rholiau Toiled
  • Papur e.e. Papurau Newyd, Papur Swyddfa, Catalogau, Clyhgronau, Post Sothach

Eich Sach Gwyn

Oes Plis

  • Pecynnau Tetra e.e. Cartonau
  • Plastigion e.e. Poteli Diod, Poteli Llaeth, Poteli Siamp, Tybiau, Potiau Iogwrt
  • Poteli Gwydr a Jariau e.e. Poteli Gwin, Poteli Gwirodydd, Poteli Cwrw, Jariau
  • Tuniau a Caniau e.e. Tuniau, Caniau, Aerosolau

Peidiwch a rhoi'r canlynol yn eich sachau.

Dim Diolch 

  • Gwastraff Gardd
  • Bwyd / Hylifau
  • Defnydd lepio plastig e.e. pacedi creision, bagiau plastig
  • Clytiau babanod
  • Llwch o'r Casglwr llwch
  • Tecstilau

Cyngor ar Ailgylchu

Rinsiwch duniau a chaniau, poteli a jariau gwydr, poteli plastig, hambyrddau plastig etc.
I gael mantais lawn o'ch sachau ailgylchu, malwch, gwasgwch neu fflatiwch ddefnyddiau lle bo hynny'n bosib. 

Pryd dylwn i roi fy sachau allan?

Dylid rhoi’r sachau hyn allan ar yr un diwrnod a’ch diwrnod casglu sbwriel arferol, unwaith bob pythefnos. Gweler y calendr a gewch hefo eich rholyn sachau i weld y dyddiad ailgylchu.

Sut i archebu mwy o sachau ailgylchu

Os ydych wedi rhedeg allan o sachau ailgylchu, cysylltwch ā’r tīm gwasanaeth cwsmeriaid ar 01824 706100 neu e-bostiwch gwasanaethcwsmer@sirddinbych.gov.uk.

Ble bydd y cynllun ar gael?

Mae’r gwasanaeth ar gael ar hyn o bryd yn Llangollen, Corwen, Dinbych, Rhuthun, y Rhyl a Phrestatyn a’r pentrefi canlynol :

  • Betws Gwerfyl Goch
  • Bodfari
  • Carrog
  • Clawddnewydd
  • Cwm
  • Cyffylliog
  • Cynwyd
  • Derwen
  • Gellifor
  • Glyndyfrydwy
  • Graigfechan
  • Graianrhyd
  • Gwyddelwern
  • Llanarmon yn Ial
  • Llanbedr Dyffryn Clwyd
  • Llandegla
  • Llandrillo
  • Llandyrnog
  • Llanelidan
  • Llanrhaeadr
  • Melin y Wig
  • Nantglyn
  • Pentrecelyn
  • Pentre Llanrhaeadr
  • Prion
  • Pwllglas
  • Rhewl
  • Rhuallt
  • Saron
  • Tremeirchion
Ymlyniadau
 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych