Mae Cronfa Fuddsoddi Leol Gogledd Orllewin Cymru (ILF) yn gynllun grant newydd ar gyfer busnesau newydd a rhai sy’n bod yn barod sy’n ceisio buddsoddi cyfalaf yn eu cwmni.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn i gyflawni’r rhaglen.
Fe groesawodd y Dirprwy Brif Weinidog y cynllun wrth iddo ei lansio’n ddiweddar ym maes awyr Ynys Môn.
Gall busnesau ymgeisio am ariannu o rhwng £1,000 a £5,000 ar gyfer prosiectau cyfalaf cymwys a fydd yn cynrychioli 40% o gyfanswm costau prosiect cymwys.
Mae’r grantiau ar gael i fusnesau sydd wedi eu lleoli yn Sir Ddinbych ac sy’n cyflogi 250 o bobl neu lai. Mae grantiau ar gael i gynorthwyo gyda chaffael cyfarpar ac, mewn rhai achosion, i alluogi cwmnïau i’w marchnata eu hunain gan ddefnyddio’r rhyngrwyd neu ddefnyddiau hyrwyddo ansawdd.
Mae yna feini prawf cymhwyster ac, i gychwyn, gall busnesau gyflwyno ffurflen mynegiant o ddiddordeb i nodi cymhwyster. Os yn llwyddiannus yna fe allant gyflwyno cais llawn.
Meddai’r Cynghorydd David Thomas, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Ddatblygu Economaidd ac Adfywio, “Rwy’n croesawu’r rhaglen grant hwn ac rwy’n credu y bydd o fudd mawr i’r economi leol.”
Fe ariennir y Gronfa Fuddsoddi Leol drwy Raglen Cydgyfeirio Cronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd.
- Mae yna waharddiadau o fewn y meini prawf ac mae sectorau fel Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Choedwigaeth yn eithriedig ac mae angen i fusnesau brofi nad ydynt yn gweithredu o fewn sector sy’n cael darpariaeth dda o fewn y sir, gan na ellir defnyddio grantiau’r sector gyhoeddus i alluogi twf a allai fod yn niweidiol i fusnesau eraill o fewn sector debyg.
- Mae cynllun cefnogi busnes Llywodraeth Cynulliad Cymru o’r enw ‘Cymorth Hyblyg i Fusnes’ wedi ei sefydlu a bydd yn cynorthwyo busnesau i gyrchu ffurfiau eraill ar gefnogaeth. Mae’n cynnig cyrchiad sydyn, syml i wybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bob busnes drwy reolwyr cysylltiadau pwrpasol a fydd yn cefnogi’r busnes ac yn ei helpu i gyrchu pecyn cefnogaeth addas.

