| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Ailgylchu Bin Glas
Ailgylchu Bin Glas

Mae eich bin olwyn glas newydd yn disodli eich bocs ailgylchu, y bag glas a'r bag dympi, felly'n awr gellir rhoi'r defnyddiau ailgylchu i gyd yn yr un bin hwn. Yn ogystal a'r defnyddiau a ailgylchwyd o'r blaen (papur, caniau, poteli gwydr a phlastig), gyda'r bin olwyn glas yn awr fe allwn dderbyn pob math o gardfwrdd, plastig cymysg a tetrapak.

Beth sy'n mynd i ble?

Oes Plis

  • Pecynnau Tetra
  • Plastigion e.e. Poteli Diod, Poteli LLaeth, Poteli Siampw, Tybiau, Potiau Iogwrt
  • Poteli Gwydr a Jariau e.e. Poteli Gwin, Poteli Cwrw, Poteli Gwirodydd, Jariau
  • Tuniau, Caniau a Aeresolau
  • Papur e.e. Papurau Newydd, Papur Swyddfa, Cylchgronau, Catalogau, Post Sothach
  • Cardbord e.e. Bocsys Grawnfwyd, Bocsys Bwyd, Bocsys Cludo, Cardiau, Rholiau Toiled

Cofiwch roi dim ond y defnyddiau a nodir uchod i mewn. Gall y defnyddiau anghywir halogi'r llwyth cyfan a gallai hynny olygu gorfod ei anfon i dirlenwi.

Peidiwch a rhoi unrhyw un o'r canlynol yn eich bin glas.

Dim Diolch

  • Bagiau Plastig
  • Defnydd lapio plastig e.e. pacedi creision, haenen lynu.
  • Clytiau babanod
  • Bwyd / Hylifau
  • Gwastraff gardd

Rinsiwch duniau a chaniau, poteli a jariau gwydr, poteli plastig, hambyrddau plastig etc.

I gael mantais lawn o'ch bin olwyn glas, malwch, gwasgwch new fflatiwch ddefnyddiau lle bo hynny'n bosib.

Ymlyniadau
 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych