Mae'r DU yn taflu 4.1 miliwn o dunelli o wastraff bwyd y flwyddyn, llawer ohono heb ei gyffwrdd a heb ei agor!
Mae gwastraff bwyd yn ffurfio tua 28% o wastraff biniau cartref Sir Ddinbych ar gyfartaledd o ran pwysau a hyd yma fe'i claddwyd mewn safleoedd tirlenwi.
Ond fe ellir compostio pob gwastraff bwyd yn cynnwys bwyd wedi ei goginio, cig a physog amrwd ond mae'n rhaid ei drin mewn ffordd arbennig ac felly mae'n rhaid ei gasglu ar wahan.
O ganlyniad i'r newid hwn ni fydd yn rhaid i deuluoedd gael gwared a'u gwastraff cegin yn eu biniau olwyn du o hyn ymlaen. Yn hytrach fe allwch roi eich gwastraff bwyd yn cynnwys parion, esgyrn, bagiau te, bwyd dros ben etc yn ein bin gwastraff bwyd oren yn barod ar gyfer y casgliad wythnosol. Darperir cadi cegin llai i chi gasglu eich gwastraff bwyd bob dydd ac yna ei drosglwyddo i'r cynhwysydd gwastraff bwyd oren pan yn gyfleus.
Gall casgliadau gwastraff bwyd wneud gwahaniaeth sylweddol i gynyddu lefel yr ailgylchu'r ydym yn ei gyflawni yn Sir Ddinbych.
Cynwysyddion Gwastraff Bwyd
Gellir cloi cynwysyddion gwastraff bwyd yn hawdd. Mae'r caead yn ddiogel pan roir yr handlen yn y ffrynt. I agor y caead, gwthiwch yr handlen i gefn y cynhwysydd. Gofynnir i breswylwyr gloi'r caead pan gyflwynir y cynhwysydd gwastraff bwyd ar ddiwrnod casglu.
Defynyddiwch y leiner bioodiraddadwy a gyflenwir i leinio'ch cadi cegin. Cyflenwir 2 rolyn (digon ar gyfer defnyddio 2 sach yr wythnos). Dim ond leiner a gyflenwir gan Gyngor Sir Ddinbych sydd i'w defnyddio ar gyfer y cadi cegin. Os defnyddir unrhyw leiner arall ar gyfer eich gwastraff bwyd ni chaiff ei gasglu.
Beth syn'n mynd i ble?
Oes Plis
- Cynnyrch Wedi'u Pobi e.e. Cacennau, Grawnfwydydd, Bisgedi, Crystiau Bara, Bara Wedi Llwydo
- Te / Coffi e.e. Bagiau Te, Mal Coffi
- Gwastraff Ffrwythau e.e. Croen, Creiddiau, Crwyn, Ffrwythau Wedi Llwydo
- Cynnyrch Mewn Tun / Wedi'u Paio e.e. Cnau, Corbys, Hadau
- Gwastraff Llysiau e.e. Pil Croed, Llysiau Pwdr
- Bwyd Dros Ben e.e. Crafion o'r Plat
- Arall e.e. Towel cegin / Papur neu gerdyn sydd wedi'r lygru hefo bwyd
- Gwastraff Llaethdy e.e. Wyau / Plisgyn, Caws
- Gwastraff Cig e.e. Pysgod, Esgyrn
Dim Diolch -
- Pecynnu metel (e.e. tuniau, caniau, ffoil)
- Pecynnu plastig (e.e. poteli, lapiwr seloffen, bagiau plastig)
Mae’n rhaid tynnu’r bwyd o’r pecynnu cyn ei waredu yn y cadi gwastraff bwyd. Gall papur a chardfwrdd sydd wedi ei halogi fynd i mewn i’r cadi. Dylai pob pecynnu arall (e.e. potiau iogwrt, bagiau plastig, lapiwr seloffen, caniau tun etc) gael eu hailgylchu drwy’r bin glas neu ei waredu yn y bin du.
Sut i gael mwy o Fagiau Gwastraff Bwyd
Gallwch gasglu bagiau gwastraff bwyd ychwanegol o Siopau Un Stop yn Y Rhyl, Prestatyn, Llanelwy neu Ruddlan.
Os oes gennych dag melyn, clymwch o i’ch cadi bwyd ac fe adawn fwy o fagiau i chi ar eich diwrnod casglu.
Defnyddiwch y tag dim ond pan fyddwch wedi rhedeg allan o fagiau, os gwelwch yn dda.

