Drysau Agored Sir Ddinbych
Dinbych 11 a 12 Medi 2010Llangollen 18 a 19 Medi 2010
Rhuthun 25 a 26 Medi 2010
Mae Drysau Agored Sir Ddinbych yn rhan o ddathliadau pensaernïaeth a threftadaeth mwyaf Cymru. Dewch i gymryd golwg agosach drwy ddrysau agored trefi hanesyddol Dinbych, Llangollen a Rhuthun.
Fe fydd yna ganolbwynt perffaith ar gyfer pob penwythnos i chi gynllunio arhosiad byr yn Sir Ddinbych. Mae’r digwyddiadau hyn sydd am ddim yn rhoi blas i chi ar dreftadaeth a diwylliant yr ardal. Fe neilltuir penwythnos ar gyfer pob tref.
Mae Dyddiau Treftadaeth Ewropeaidd yn fenter gan Gyngor Ewrop. Cydlynir y digwyddiad gan Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru sydd â’i phartneriaid yn trefnu digwyddiadau paralel yn Lloegr a’r Alban. Fe lansiwyd y fenter yn 1991 a’r llynedd fe ymwelodd dros 20 miliwn o bobl â’r holl safleoedd cyfranogol ledled Ewrop.
Fe gydlynir y digwyddiadau yn Sir Ddinbych gan Gymdeithas Ddinesig Dinbych a Chymdeithasau Dinesig Rhuthun a’r Cylch mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych - gan ffurfio grŵp Drysau Agored Sir Ddinbych.
Mae grŵp Drysau Agored Sir Ddinbych am ddiolch i:
Cyngor Tref Dinbych
Cyngor Tref Llangollen
Cyngor Tref Rhuthun
Cadw
Cyngor Sir Ddinbych
Perchnogion eiddo am agor eu drysau’n garedig i’r cyhoedd am ddim
Yr holl wirfoddolwyr, yn cynnwys arweinyddion teithiau a stiwardiaid



