Cerdded yng Nghefn Gwlad Sir Ddinbych
Dewch i ddarganfod tirwedd amrywiol sir Ddinbych.
Mae ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd yn rhedeg o'r gogledd i'r de ar hyd ffin ddwyreiniol y sir.
Calon yr ardal yw Dyffryn Clwyd, sy'n ddyffryn llydan a ffrwythlon, as i'r gorllewin mae rhostiroedd agored Mynydd Hiraethog.
Y ffin ddeheuol yw Dyffryn hardd yr Afon Ddyfrdwy gyda Mynydd gwyllt y Berwyn o'i gwmpas. Yn y gogledd rhed y bryniau i lawr i'r arfordir a'i dwyni tywod.

