| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Gorfodaeth Sbwriel
Ceir wedi'u gadael

Os ydych yn amau bod cerbyd wedi'i adael ffoniwch Gwasanaethau Cwsmer (gweler y manylion isod).

Os ydych yn amau bod cerbyd yn anghyfreithlon, yn rhwystro'r ffordd neu wedi parcio'n beryglus ffoniwch Heddlu Gogledd Cymru ar 0845 607 1002.

Cerbydau di dreth

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn pwerau gan y DVLA fel ei fod nawr yn gallu codi ceir sydd wedi parcio ar y briffordd heb dreth ffordd gyfredol. (Byddwn yn codi unrhyw gar lle mae'r ddisg dreth allan o dyddiad o un mis neu fwy). Y rheswm am ddefnyddio'r pwerau hyn yw bod y ceir hyn yn aml wedi'u gadael, ac yn ystadegol eu bod yn fwy tebygol o fod yn rhan o droseddau eraill ac yn annhebygol o gael yswiriant ar y car.

Ffoniwch ein Tim Gwasanaethau Cwsmer i roi adroddiad am unrhyw gerbyd sydd wedi'i adael / heb ei drethu ar 01824 706 100.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithredu fel asiant i'r DVLA i glirio cerbydau di dreth oddi ar y briffordd. Nid oes gan Gyngor Sir Ddinbych na'n Contractwyr hawl i ryddhau ceir sydd wedi'u clirio o'r ffordd.

Os yw eich cerbyd wedi'i symud ffoniwch y DVLA ar 01792 765152 os gwelwch yn dda.

Masnachu cerbydau ar y briffordd

Mae hi'n drosedd o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 i hysbysebu cerbydau ar werth ar y briffordd
Os ydych yn amau bod 2 neu fwy o gerbydau’n cael eu hysbysebu ar werth gan yr un person neu fusnes a’u bod 500m ar wahân ac wedi parcio ar y briffordd ffoniwch y Gwasanaethau Cwsmer.

Dympio slei

Dympio slei yw gadael unrhyw sbwriel yn anghyfreithlon ar unrhyw dir neu briffordd
heb drwydded. Mae'n cynnwys gwastraff tŷ a gwastraff gardd, eitemau mawr megis oergelloedd a soffas a gwastraff masnach neu ddiwydiannol, megis gwastraff adeiladu a chemegau peryglus.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn darparu gwasanaeth casglu eitemau mawr o dai am gost o £4 yr eitem. Hefyd darperir gwasanaeth casglu gwastraff o siopau, bwytai, gwestai, etc. I gael mwy o wybodaeth ffoniwch Gwasanaethau Cwsmer.

Rhowch adroddiad am adael sbwriel i'r Gwasanaethau Cwsmer. Nodwch y lleoliad, y swm a math o sbwriel. Os ydych wedi gweld rhywun yn gollwng sbwriel, yna rhowch y dyddiad, amser a disgrifiad o hynny, e.e. rhif cofrestru'r cerbyd, gwneuthuriad, lliw, etc.

Manylion cyswllt

Os gwelwch gerbyd sydd wedi'i adael, cerbydau ar werth ar ochr y ffordd neu sbwriel wedi’i adael rhowch wybod i'r Gwasanaethau Cwsmer trwy ffonio:

Rhif ffôn: 01824 706100 (8.00am - 6.00pm, dydd Llun - dydd Gwener).
E-bostiwch: gwasanaethcwsmer@sirddinbych.gov.uk
Fax: 01824 712144.

Bydd y Tîm Gorfodi Amgylcheddol yn edrych i mewn i'r wybodaeth a roddwch i ni.

Ymlyniadau
 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych