11/23/2009 - Cam mawr ymlaen i warchodfa natur leol Rhuddlan
Fe lwyddodd Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych i sicrhau cymorth grant o £141,500 i ddatblygu prosiect newydd cyffrous ar gyrion tref Rhuddlan. Mae’r prosiect i drawsnewid ardal o dir diffaith yn warchodfa natur leol a fydd yn llecyn gwyrdd agored gwerthfawr. Fe addawyd yr ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru dan gronfeydd Ardal Adfywio Strategol, CADWYN Clwyd dan y Cynllun Datblygu Gwledig, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a rhodd hael gan y gŵr busnes, Mr Raymond Fagan.
Caiff gwarchodfeydd natur lleol eu dynodi gan awdurdodau lleol dan bwerau unigryw Adran 21 Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 ac maent yn rhoi cyfle i awdurdodau lleol wneud cyfraniad ymarferol i gadwraeth a chynaladwyedd ar lefel leol. Mae gan warchodfeydd natur lleol rôl arbennig o annog ymglymiad cymunedol â natur a diogelu ‘ardaloedd naturiol’ pwysig lleol a werthfawrogir gan bobl leol.
Sir Ddinbych yw’r prif berchennog tir ond mae darn o dir a oedd mewn dwylo preifat ynghynt ac sy’n hanfodol i lwyddiant y prosiect, wedi ei brynu gan y gŵr busnes Mr Raymond Fagan sy’n barod i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu’r adnodd cymunedol hwn.
Mae Grŵp Rheoli Ymgynghorol wedi ei sefydlu i helpu i arwain y prosiect ac i sicrhau bod pob buddgyfranogwr yn cael llais. Datblygwyd cynllun y prosiect yn dilyn sylwadau i grwpiau lleol ac fe wnaethpwyd newidiadau yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus.
Nod y prosiect yw trawsnewid ymddangosiad y safle o fod yn lle sydd wedi ei esgeuluso i fod yn fynediad atyniadol i dwristiaid sy’n ymweld â Rhuddlan ac i gysylltu’r safle ag atyniadau twristiaid eraill fel Castell Rhuddlan a Twt Hill. Fe gyflawnir hynny drwy’r rhwydwaith ardderchog o lwybrau a llwybrau beic.
Bydd taflenni hyrwyddo, arwyddion trothwy a byrddau dehongli’n helpu i arwain ymwelwyr drwy’r ardaloedd hyn.
Mae camau allweddol y prosiect yn cynnwys:
•Creu/gwella cynefinoedd a diogelu rhywogaethau. Cynyddu’r ardal o ddŵr llonydd yn y pwll presennol
•Llwybr mynediad i bawb drwy’r safle. Llwybr â thop du o’r lled a’r graddiant gofynnol i gydymffurfio â deddfwriaeth gyfredol Deddf Gwahaniaethau ar Sail Anabledd
•Mannau parcio’n cynnwys ardaloedd wedi eu marcio ar gyfer dalwyr bathodyn anabl
•Nodwedd porth a ffens ffin
•Tirlunio a phlannu coed
•Platfformau gwylio, seddau ac ardaloedd picnic
•Byrddau dehongli a thaflenni gwybodaeth
•Platfformau dipio pwll a gweithlenni’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm Cenedlaethol
•Ymglymiad cymunedol parhaus a chyfleoedd gwirfoddoli
Mae ymglymiad cymunedol yn hanfodol i’r prosiect ac fe anogir cyfranogiad lle bo hynny’n bosib. Gwahoddir gwirfoddolwyr i roi cynnig ar blygu gwrych dan oruchwyliaeth staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad a hyfforddwr proffesiynol.
Cynhelir y sesiynau o ddydd Mawrth Tachwedd 24 – dydd Sadwrn 28 Tachwedd o 10am - 3pm. Cyfarfod ar y safle ac fe ddarperir yr offer a’r hyfforddiant. Gallwch gael manylion pellach drwy ffonio 01745356197.

