Trwydded Amgylcheddol
Ydych chi angen Trwydded Amgylcheddol?
I ddechrau mae angen i chi ffeindio a fyddai’ch gweithgaredd arfaethedig yn gyfleuster rheoledig dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol.
Gall cyfleuster rheoledig fod yn:
- sefydliad sy’n gweithredu gweithgaredd diwydiannol, gwastraff neu ffermio dwys sydd wedi ei restru yn Atodlen 1 y Rheoliadau;
- gweithrediad gwastraff nad yw’n cael ei gynnal mewn sefydliad, er enghraifft, gorsaf drosglwyddo gwastraff;
peiriant symudol sy’n gweithredu un ai weithgaredd Atodlen 1 neu weithrediad gwastraff sydd, er enghraifft, yn trin pridd gwastraff; - gweithrediad gwastraff mwyngloddio lle rheolir gwastraff echdynnol ac a allai gynnwys cyfleuster gwastraff mwyngloddio neu ddim
- Darperir trwyddedau amgylcheddol gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Ewch i’r wefan am ragor o wybodaeth.

