| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Trwyddedau Petrol

Crynodeb o’r drwydded

I redeg busnes lle mae petrol yn cael ei storio i’w ddosbarthu’n uniongyrchol i danc tanwydd peiriant tanio mewnol – neu lle mae llawer iawn o betrol yn cael ei storio ar gyfer defnydd preifat – mae arnoch angen trwydded gan eich awdurdod trwyddedu petrolewm lleol.

Mae’n rhaid gwneud ceisiadau ar gyfer ardaloedd Llundain Fwyaf neu sir fetropolitan i’r awdurdod tân ac achub lleol. Ym mhob achos arall dylid gwneud ceisiadau i’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol lleol.

Bydd ffioedd yn daladwy am drwydded.

Gellir atodi amodau i’r drwydded.

Meini Prawf Cymhwysedd

Dim darpariaeth mewn deddfwriaeth

Crynodeb o’r Rheoliad

Crynodeb o feini prawf cymhwysedd ar gyfer y drwydded hon

Proses o Werthuso Cais

Dim darpariaeth mewn deddfwriaeth

Fydd Cydsyniad Dealledig yn Gymwys?

Na. Mae er budd y cyhoedd i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch ag o.

Ymgeisio ar-lein

Ymgeisio am drwydded i storio petrolewm

Dwedwch wrthym am newid i’ch trwydded petrolewm bresennol

Ymgeisio i drosglwyddo eich trwydded petrolewm bresennol

Iawn am Gais a Fethodd

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

Os gwrthodir cais gall yr ymgeisydd apelio at yr Ysgrifennydd Gwladol.

Iawn i Ddaliwr y Drwydded

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

Cwyn Cwsmeriaid

Byddem yn cynghori bob amser mai chi sydd i wneud y cysylltiad cyntaf os ceir cwyn – a hynny’n ddelfrydol mewn llythyr (gyda phrawf derbyn). Os na fydd hynny wedi gweithio, os ydych chi wedi eich lleoli yn y DU, fe wnaiff Cyswllt Defnyddwyr roi cyngor i chi. Y tu allan i’r DU cysylltwch â’r UK European Consumer Centre.

Iawn Arall

E.e. am sŵn, llygredd, etc. Hefyd a ddylai un daliwr trwydded gwyno am un arall.

Cymdeith-asau Masnach

Petrol Retailers Association (PRA)

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Polisi Cwci | Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | ©2013 Cyngor Sir Dinbych