| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Rhianta Corfforaethol

Yn Sir Ddinbych, credwn fod sicrhau gofal a diogelwch effeithiol i blant sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol yn un o gyfrifoldebau pwysicaf y Cynghorwyr, y swyddogion a’r asiantaethau proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.  Er mwyn darparu gwasanaethau o ansawdd, mae’n rhaid i ni i gyd weithio gyda’n gilydd i gyfarfod â’u hanghenion.

Rhiant Corfforaethol yw’r term a ddefnyddir i gyfeirio at gyfrifoldeb cyfunol y Cyngor i ddarparu’r gofal a’r diogelwch gorau posib i blant a phobl ifanc sy’n “derbyn gofal”, hynny yw, y rheiny sydd mewn gofal cyhoeddus.

Egwyddor ganolog rhianta corfforaethol yw bod yr holl Gynghorwyr a’r staff sy’n gyflogedig gan y Cyngor yn ymdrechu i gyflawni a darparu ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, fel y gallant fanteisio’n llawn ar gyfleoedd sydd ar gael a chyflawni eu potensial llawn, fel y gwnaent ar gyfer eu plentyn/plant eu hunain.  Gall hyn fod ar lefel ymarferol i unigolion sy’n gweithio’n uniongyrchol â phlant, neu ar lefel strategol i unigolion sy’n gwneud penderfyniadau a allai effeithio plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal.

Mae’r Strategaeth Rhianta Corfforaethol 2009-11 yn darparu’r fframwaith ar gyfer holl swyddogion, rheolwyr a Chynghorwyr Cyngor Sir Ddinbych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau’r plant a’r bobl ifanc hyn.  Traws-lwythwch y strategaeth atodol i weld sut y mae Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu gwneud hyn.

Ymlyniadau
 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych