| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Datganiad Mynediad

Cyfeiriad:
46 Stryd Clwyd
Rhuthun  
LL15 1HP
Rhif ffôn:  01824 708281
Rhif ffacs:  01824 708258
E-bost:  treftadaeth@sirddinbych.gov.uk



Cludiant

• Ceir nifer cyfyngedig o fannau parcio hygyrch am ddim ar y safle. 
• Dau faes parcio talu ac arddangos pum munud o waith cerdded o’r safle. 

Prif Fynedfa / Cyfleusterau Derbynfa

• Oriau ar agor (2011) Ebrill i Hydref 10am-5pm dydd Mercher - dydd Sul a Gwyliau Banc Prisiau Tocynnau.  Oedolion £3.50, Gostyngiadau £2.50, Tocyn teulu £10.00
• Cynigir tocyn arbennig i drigolion Rhuthun – talu’r pris llawn am un ymweliad ac yna £1 am bob ymweliad dilynol  
• Mynediad ar y gwastad drwy ddrws llydan i’r ddesg docynnau a’r siop
• Lifft i’r ddau lawr
• Mynediad ar y gwastad i’r gegin ar ramp allanol  

Rhannau cyhoeddus eraill

• Toiled hygyrch ar y llawr gwaelod. 

Cyfleusterau eraill

• Tâp sain esboniadol ar gyfer ymweliadau â’r carchar. 
• Copi caled ysgrifenedig ar gael hefyd.
• Llyfr tywys ar gael.
• Y celloedd gwreiddiol yw’r celloedd yn y Carchar, ac oherwydd eu maint cyfyng, nid ydynt yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn. 
• Cyflwynir gwybodaeth gefndir drwy gyfrwng sgrîn gyffwrdd gweledol. 
• Cyflwyniad clyweledol am Coch Bach y Bala.
• Cadeiriau wedi eu lleoli o amgylch y carchar. 
• Hysbysebir digwyddiadau drwy’r flwyddyn mewn rhestrau ac ar y wefan, yn cynnwys digwyddiad iaith arwyddion yn ystod Mis Amgueddfeydd ac Orielau ym mis Mai. 
• Croeso i gŵn cymorth ymhob rhan o’r safle.
• Yr holl staff wedi derbyn hyfforddiant Croeso Cynnes Cymreig.
• Dyfarnwyd statws Cynllun Sicrwydd Ansawdd Atyniad i Ymwelwyr (VAQAS) a MLA i’r safle

Nodweddion synhwyraidd

• Mae waliau cerrig oer y tu mewn i’r carchar ac amrywiaeth o arwynebau sy’n gyffyrddol iawn.  


 

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych