| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Fersiwn symudol | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Bwrdd Lleol Diogelu Plant
Bwrdd Lleol Diogelu Plant

Mae gan Fwrdd Lleol Diogelu Plant Conwy a Sir Ddinbych wedudalennau a gynhelir ar wefan Conwy. Dilynwch y cyswllt allanol (ar y chwith) i fynd i’r gwedudalennau hyn. 

Y Bwrdd Lleol Diogelu Plant yw’r fforwm aml-asiantaeth ar gyfer cytuno ar sut y dylid cynllunio, cyflawni a monitro gwasanaethau diogelu plant yn lleol. Daeth Byrddau Lleol Diogelu Plant i fodolaeth ar 1 Hydref 2006 fel un o ofynion Deddf Plant 2004, yn lle’r Pwyllgorau Ardal Amddiffyn Plant a fu’n gweithredu ers 1996.  Y Bwrdd Lleol Diogelu Plant yw’r corff statudol sy’n gyfrifol am warchod plant a phobl ifanc rhag niwed sylweddol a hyrwyddo eu lles.  Ym mis Mai 2008 cyfunwyd byrddau Conwy a Sir Ddinbych i ffurfio Bwrdd Lleol Diogelu Plant Conwy a Sir Ddinbych. 

Dwy brif swyddogaethau sydd gan Fwrdd Lleol Diogelu Plant: cydlynu gwaith yr holl asiantaethau er mwyn hyrwyddo iechyd a lles plant, a sicrhau effeithlonrwydd y gwaith hwnnw. 
Cred Bwrdd Lleol Diogelu Plant Conwy a Sir Ddinbych fod pawb yn gyfrifol am ddiogel a hyrwyddo lles plant, ac mae’n gweithio i gyflawni hyn drwy: 
• arwain cydweithio a chydweithredu ar draws yr holl asiantaethau yn y gymuned 
• datblygu a chyflwyno polisïau a gweithdrefnau 
• monitro ac archwilio gweithredu’r polisïau a gweithdrefnau hynny
• sicrhau bod hyfforddiant priodol ar gael 
• hyrwyddo ymwybyddiaeth a gweithredu yn y gymuned ehangach, a 
• cynnal adolygiadau achos difrifol pan fo plentyn yn marw neu’n dioddef niwed difrifol ac yr amheuir bod cam-drin neu esgeuluso wedi digwydd.  

Mae’n ddyletswydd ar bob asiantaeth i gydymffurfio gyda Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan a’r canllawiau ‘Diogelu Plant: Gweithio gyda’n Gilydd dan Ddeddf Plant 2004’. Os ydych chi’n poeni am unrhyw blentyn ac yn tybio y gallent fod yn dioddef o esgeuluso, cam-driniaeth neu greulondeb, cysylltwch gyda: 

Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy

Yn ystod oriau swyddfa* rhif ffôn: 01492 575111
Y tu allan i oriau swyddfa rhif ffôn: 01492 515777

*Oriau swyddfa: 8.45am - 5.15pm.
 
Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych

Yn ystod oriau swyddfa* rhif ffôn: 01824 712900
Y tu allan i oriau swyddfa rhif ffôn: 0845 053 3116

*Oriau swyddfa: 8.30am - 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Iau, 8.30am - 4.30pm dydd Gwener. 
 
Yr Heddlu

Rhif ffôn: 0845 607 1002

Os oes arnoch chi angen cymorth yr Heddlu mewn ARGYFWNG ffoniwch 999 bob tro. 

NSPCC         

Rhif ffôn: 0808 800 5000

Nid yw’n angenrheidiol i chi wybod popeth am y plentyn a beth sy’n digwydd – dim ond eich bod yn pryderu, neu’n teimlo nad yw popeth fel y dylai fod. 

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych