| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Cefnogaeth i rieni ifanc mewn addysg bellach

Gellir cefnogi rhieni ifanc mewn addysg bellach trwy eu coleg. Os ydych yn rhiant yn yr ysgol, coleg chweched dosbarth neu Goleg Addysg Bellach, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn help gyda chost gofal plant.

Am gyngor ar yr hyn sydd ar gael i chi, cysylltwch â'r swyddog lles myfyrwyr yn eich coleg, neu eich undeb myfyrwyr, neu cliciwch ar yr ail ddolen.

Cronfa Cefnogi Myfyrwyr

Mae gan rai colegau gronfa arbennig i helpu gyda chostau sy'n gysylltiedig â'r coleg. Os ydych eisiau help gyda chost gwisg ysgol, teithiau neu ofal plant, bwriad y Gronfa Cefnogi Myfyrwyr yw cefnogi'r rhai a all ei chael yn anodd cwblhau cwrs heb gymorth ariannol. Mae'r gronfa hon yn talu costau ychwanegol a all godi ar ôl cofrestru – megis ar gyfer offer penodol (e.e. gwisgoedd, cyllyll ar gwrs arlwyo, olew therapi harddwch, paent ac ati), sy'n ffurfio rhan o'u cwrs, neu gostau gofal plant. Mae gwybodaeth bellach ar gael gan y tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn y coleg. Nodwch gan fod Cronfeydd Cefnogi Myfyrwyr yn gyfyngedig, efallai na fydd modd cynorthwyo pob myfyriwr sy'n gwneud cais.

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Polisi Cwci | Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | ©2013 Cyngor Sir Dinbych