| Crynodeb o’r Drwydded | Os ydych am gynnal digwyddiad ad-hoc yn Lloegr neu Gymru, mae’n rhaid i chi roi Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro i’r awdurdod trwyddedu lleol yn ddim hwyrach na deg diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Os yw’r lleoliad lle mae’r digwyddiad i’w gynnal mewn ardal a reolir gan ddau neu fwy o awdurdodau lleol mae’n rhaid gwneud ceisiadau i’r ddau.
|
|---|---|
| Meini Prawf Cymhwysedd | Mae’n rhaid gweithredu gweithgaredd y gellir ei drwyddedu fel y’i nodir mewn hysbysiad sy’n rhaid ei roi.
|
| Crynodeb Gweithredol | |
| Proses Werthuso’r Ceisiadau | Mae’n rhaid rhoi’r Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro yn ysgrifenedig, wedi ei ddyblygu, i’r awdurdod lleol o leiaf ddeg diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Mae ffi'n daladwy gyda’r hysbysiad.
|
| Proses Werthuso’r Ceisiadau Fydd Cydsyniad Dealledig yn Gymwys? | Bydd. Golyga hyn y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi ei ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed. |
| Ymgeisio ar-lein | |
| Iawn am Gais a Fethodd | Cysylltwch â’r Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf. |
| Iawn i Ddaliwr y Drwydded | Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf. |
| Cwynion Defnyddwyr | Os ceir cwyn byddem yn cynghori mai chi sy’n cysylltu’n gyntaf â’r masnachwr – ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf o dderbyn). Os na fydd hynny wedi gweithio, os ydych wedi eich lleoli yn y DU, fe wnaiff Cyswllt Defnyddwyr Cymru roi cyngor i chi. Cysylltwch â’r UK European Consumer Centre y tu allan i’r DU. |
| Iawn Arall | Os bydd awdurdod trwyddedu’n penderfynu peidio rhoi gwrth-hysbysiad o ran rhybudd o wrthwynebiad gall prif swyddog yr heddlu apelio’r penderfyniad. Mae’n rhaid gwneud apeliadau i’r Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod. Ni ellir dwyn apêl yn hwyrach na phum diwrnod gwaith i ddiwrnod y digwyddiad arfaethedig. |
| Cymdeithasau Masnach | |

