| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
02/08/2012 - Newidiadau i safleoedd tacsis yn Stryd Fawr Prestatyn

Mae defnyddwyr tacsis ym Mhrestatyn yn cael eu hysbysu o newid lleoliad y safleoedd tacsis ym mhen isaf Stryd Fawr y dref, gan ddechrau ar Chwefror 13.
Fe ganfuwyd problemau gyda phrosiect yr Orsaf Fysiau ac mae angen gwaith dylunio brys i’w goresgyn.  Mae’r problemau hyn na ellid eu rhagweld yn ymwneud â’r wal gynnal yng nghefn yr Orsaf Fysiau. 

Tra bod hyn yn cael ei wneud, ac i sicrhau cyfarfod â dyddiad cwblhau cyffredinol ar gyfer yr holl waith ar y briffordd, mae angen i’r contractwr ddechrau ar y gwaith yn awr ar waelod y Stryd Fawr yn gynharach na’r hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol.  Fe fyddai’n beryglus caniatáu i’r safleoedd tacsis presennol ar y Stryd Fawr aros ar agor yn ystod y cyfnod yma a dyna pam fod angen y ddarpariaeth arall yma.

Mae dau safle tacsis dros dro’n cael eu creu i ddelio ag anghenion y fasnach dacsis a’u cwsmeriaid. 

Y ddau safle dros dro newydd ydi:

Ffordd yr Orsaf Prestatyn (yr ochr ogleddol i ben Bastion Road). Fe fydd yna leoedd ar gyfer 4/5 car.  Fe fydd yna arwyddion ar gyfer y safle yma y tu mewn i’r orsaf.  Disgwylir i’r gwaith ar ochr ogleddol yr orsaf fod wedi ei gwblhau o fewn y pythefnos nesaf.   Bydd hynny’n cyflwyno dau safle parhaol ar ochr ogleddol yr orsaf.  Fe fydd yna ddau ofod hefyd y bydd tacsis yn gallu eu defnyddio yn y maes parcio ar gyfer codi a gollwng.

Ffordd Ddienw, Prestatyn, yn arwain o’r Stryd Fawr ac i Adeiladau’r Cyngor, Tŷ Nant.  Bydd ar ochr ogleddol y ffordd ac yn dechrau 10 medr o’r gyffordd â’r Stryd Fawr ac yn mynd cyn belled â’r toiledau.  Gofod ar gyfer 6/7 car yn y lleoliad yma.  Fe fydd yna arwyddion hynod weladwy ar y Stryd Fawr o Ffordd y Bont i’r safle yma.


Safle Rhodfa’r Brenin  Fe geisir gorchymyn traffig er mwyn i’r 3 ardal hynny a nodwyd ar y ffordd, sy’n awr wedi eu dynodi ar gyfer bysus, ddod yn 3 safle tacsis unwaith y bydd yr Orsaf Fysiau’n symud yn ôl.  Fe ddylai fod yna le ar gyfer 6/7 gofod yn y lleoliad yma.

Maes Parcio Talu ac Arddangos Tafarn Offa, Stryd Fawr Isaf.
Bydd y maes parcio ar y Stryd Fawr Isaf, yn aros ar agor.  Mae’n rhaid i unrhyw dacsi sy’n defnyddio’r maes parcio hwn gydymffurfio â’r rheoliadau talu ac arddangos sy’n gymwys i bob modurwr.

Fe hoffai Cyngor Sir Ddinbych ddiolch i bobl am eu cydweithrediad ac mae’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2012 Cyngor Sir Dinbych