| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Tân

Yn y flwyddyn 2000 bu i’r Gwasanaethau Tân ymateb i 936,500 o danau neu alwadau ffug.Yn ôl yr ystadegau diweddaraf amcangyfrifir bod nifer y rhai a fu farw oherwydd tanau wedi gostwng i 600.

Perygl tân sy’n peri’r risg mwyaf yn eich cartref. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n  cynnig cyngor a gwybodaeth rhad ac am ddim, trwy gyfrwng y tîm Diogelwch Tân Cymunedol, i’ch helpu i leihau’r risg y bydd tân yn peryglu’ch bywydau a’ch eiddo. Mae toreth o wybodaeth i’w chael ar y wefan.

Dyma rhai awgrymiadau ar gyfer eich diogelu chi a’ch teulu:

Gosod larymau mwg! Y lle delfrydol i osod larymau mwg yw ar y nenfwd, cyn agosed â phosib i ganol yr ystafell. Gofalwch fod y larwm o leiaf 30 centimedr oddi wrth y muriau ac oddi wrth bob golau. Peidiwch â gosod larymau yn y gegin na’r ystafell ymolchi rhag iddynt gael eu tanio’n ddamweiniol. Gosodwch o leiaf un larwm ar bob llawr o’r ty. Mae pen y grisiau a’r cyntedd gwaelod yn llefydd delfrydol. Profwch y larwm o leiaf unwaith yr wythnos. Newidiwch y batri unwaith y flwyddyn (nid yn achos larymau 10 blwyddyn). Adnewyddwch y larwm pob 10 mlynedd.


· Pennwch dau lwybr allan o bob ystafell, a chynnal ymarfer tân gyda’ch teulu.
· Gofalwch nad oes unrhyw beth yn rhwystro’r llwybrau dianc.
· Gofalwch fod pawb yn gwybod lle y cedwir goriadau ar gyfer y drysau a’r ffenestri, a bod pawb yn gwybod sut i’w defnyddio.
· Cofiwch ddiffodd pob teledu neu eitemau tebyg yn llwyr.
· Peidiwch ag ysmygu yn y gwely!
· Caewch bob drws dros nos er mwyn atal tân rhag ymledu.
· Gofalwch nad oes cannwyll yn dal i losgi, a pheidiwch â gadael canhwyllau mewn ystafelloedd plant.
· Gofalwch nad oes llanast diangen yn eich ystafelloedd storio. Peidiwch â gadael i hen bapurau newydd a chylchgronau bentyrru.

Gosodwch Larwm Mwg!

Os yw tân yn cynnau:

· Ewch Allan o’r Ty - Galwch bawb at ei gilydd a mynd allan o’r ty. Os yw’r ty yn llawn mwg, ewch ar eich pengliniau a chropian allan - mae’r aer yn burach wrth y llawr.

· Arhoswch y tu Allan – Peidiwch â mynd yn ôl i’r ty, hyd yn oed os yw pethau gwerthfawr neu anifeiliaid anwes yno.
· Ffoniwch am Help – Ffoniwch 999 a gofyn am y Gwasanaeth Tân.

· Defnyddiwch ffôn poced neu ffôn cymydog, neu ewch i flwch ffôn.

· Rhowch wybod i bawb fod tân wedi cychwyn – deffrowch y rhai sy’n cysgu; peidiwch ag edrych am leoliad y tân. Rhowch gefn eich llaw ar bob drws cyn ei agor: os yw’n gynnes peidiwch â’i agor.

· Stopiwch - Syrthiwch i’r llawr - Rholiwch: Os yw eich dillad ar dân peidiwch â rhedeg i ffwrdd a rhoi cyfle i’r fflamau ymledu, gan achosi llosgiadau gwaeth o lawer. Arhoswch yn eich unfan, syrthiwch i’r llawr, gorchuddio’ch wyneb â’ch dwylo, a rholiwch yn ôl ac ymlaen nes bo’r fflamau wedi diffodd.

Os yw rhywbeth yn rhwystro’ch dihangfa:

· Trefnwch fod pawb yn cynnull mewn un ystafell.
· Caewch y drws a gosod cynfasau gwely neu lieiniau ar waelod y drws i gau’r bwlch rhyngddo â’r llawr.
· Agorwch y ffenestr er mwyn cael awyr iach.

· Ffoniwch y Gwasanaeth Tân neu galwch am help a gofyn i rywun arall alw am gymorth.
· Os ydych ar y llawr gwaelod neu’r llawr isaf efallai y medrwch ddianc drwy’r ffenestr.
· Taflwch gynfasau / duvets gwely, dillad trwchus, neu glustogau allan o’r ffenestr.
· Peidiwch â neidio allan o’r ffenestr: gollyngwch eich hun o’r ffenestr yn ofalus a syrthio ar y pentwr a daflwyd allan.
· Ystyriwch a ddylid trefnu i blant a’r henoed fynd allan yn gyntaf, os yn briodol.

· Os yw’n rhaid ichi falu ffenestr, gorchuddiwch ochrau miniog y gwydr â llieiniau neu ddeunydd meddal arall.

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Polisi Cwci | Diarddelwad | Cydraddoldeb | Polisis Dirgelwch | ©2013 Cyngor Sir Dinbych