Mae'r dudalen hwn yn darparu mynediad at wybodaeth am ymgynghoriadau sydd ymlaen ar hyn o bryd, gellir gweld y manylion ar ein gwefan. Mae adrannau gwahanol o fewn y cyngor yn gyfrifol am wahanol ymgynghoriadau. Os hoffech wneud sylw ar unrhyw un o'r ymgynghoriadau, dilynwch y linc a ddarperir ac mi fydd y manylion cyswllt perthnasol ar gael i chi. Mae pob ymgynghoriad presennol wedi eu rhestr isod gyda crynodeb byr. Ar waelod y dudalen gwelwch linc at yr ymgynghoriadau sydd wedi dod i ben.
Yn ôl at y blychau?
Mae trigolion Sir Ddinbych yn ailgylchu mwy na neb arall yng Nghymru, ac rydyn ni am iddi aros felly!
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ymgynghori rŵan hyn ar a ddylid gorfodi cynghorau i newid eu systemau ailgylchu i ffafrio system a elwir yn ‘ddidoli ar garreg y drws’. Dyma’r math o system oedd gennym ni’n flaenorol yn Sir Ddinbych gyda’n bocsys glas.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n meddwl fod y systemau didoli ar garreg y drws yn well gan fod gweithwyr y cyngor yn mynd drwy’r deunydd ar ochr y ffordd, ac yn gadael unrhyw eitemau na ddylai fod yno, ar ôl - ond, rydyn ni’n credu fod y system o gymysgu’n well gan ei bod yn haws ac yn fwy cyfleus i’n trigolion. Rydyn ni’n gofyn i drigolion roi eu deunydd ailgylchu I GYD mewn bagiau neu finiau olwyn. Yna byddwn yn cludo’r defnyddiau i gyd i ffatri lle bydd yn cael ei ddidoli’n fecanyddol.
Fe ganfu arolwg trigolion yn ddiweddar roedd tair gwaith yn fwy o drigolion yn dweud eu bod eisiau defnyddio’r system gymysgu’n hytrach na’r didoli ar garreg y drws.
Mae arnom ni angen i chi roi eich barn i’r Cynulliad – yn enwedig os ydych chi’n un o’r bobl sydd wedi dechrau ailgylchu mwy oherwydd ein systemau newydd.
Cynllun Addysg Cymraeg
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gofyn i bobl am eu barn ar ddrafft y Cynllun Addysg Gymraeg, yn dilyn cymeradwyaeth gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Mae’r ddogfen yn edrych ar y ddarpariaeth bresennol, ar godi ymwybyddiaeth o addysg Gymraeg a gwybodaeth i rieni, asesu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg, ehangu’r ddarpariaeth, darparu addysg i hwyrddyfodiaid, cludiant, trefniadau monitro a sut i ddelio â chwynion.
Mae 15,348 o ddisgyblion yn cael eu haddysgu yn Sir Ddinbych (7,612 yn y sector gynradd a 7,746 yn y sector uwchradd). Mae 23.1% o ddisgyblion cynradd y sir a 18% o’i disgyblion uwchradd yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog. Mae 5.5% o ddisgyblion y sir sydd â datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig yn derbyn eu haddysg yn ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rhoi eich barn ar lasbrint ailddatblygiad Y Rhyl
Mae’r bont arfaethedig sy’n costio miliynau o bunnau ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn Harbwr Y Rhyl gam yn nes at ddod yn realaeth wrth i elusen cludiant cynaliadwy Sustrans, Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cynulliad Cymru ddadorchuddio’r dyluniad eiconig ar gyfer y bont a phenodi cwmni ar Fehefin 5 2009 i’w hadeiladu.
Fe fydd y bont droed a beiciau yma a fydd yn dirnod, yn creu croesfan newydd dros Harbwr y Foryd ac yn cysylltu â rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio newydd a phresennol yng nghalon ardal adfywio’r Rhyl, gan agor yr ardal ar gyfer teithiau dyddiol gan gerddwyr, beicwyr, pobl sy’n gwthio bygis ac yn defnyddio cadeiriau olwyn. Mae’r bont wedi ei dylunio i ganiatáu mynediad i bawb, felly mae graddiant wrth ddynesu’n finimal.
Fe groesawn eich barn a’ch sylwadau ar yr argymhellion ac fe’ch gwahoddir i lenwi ein holiadur sydd ar waelod y dudalen hon.

